Sgwrs:Y Cynfeirdd

Ni chefnogir cynnwys y dudalen mewn ieithoedd eraill.
Oddi ar Wicipedia

Ffynhonell[golygu cod]

A oedd ffynhonnell lle y dywedir rhywbeth am y defnydd "newydd" (sef Yr Hengerdd a Chanu'r Bwlch nhw eu dau yn barth o'r Cynfeirdd)? Basai'n well eu dyfynnu, rwy'n meddwl. Edricson 19:36, 28 Ionawr 2007 (UTC)[ateb]

Dyna'r arfer ers tro byd mewn llyfrau ysgolheigaidd am y cyfnod. Gweler e.e. Meic Stephens (gol.), Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru, dan y gair 'Cynfeirdd'. Anatiomaros 20:02, 28 Ionawr 2007 (UTC)[ateb]
Diolch (dim problem i mi efo hynny, beth bynnag)! Ond os "ers tro byd" y defnyddir hynny, pam mae'r erthygl yn dweud "tan yn ddiweddar"? Edricson 20:28, 28 Ionawr 2007 (UTC)[ateb]
Wel, buasai'n rhaid imi fynd ati i chwilio am yr enghraifft gynharaf ond dwi'n meddwl taw dyna yw'r defnydd ers cenhedlaeth o leiaf - yn sicr pan oeddwn i yn y coleg. Ydi hynny'n "ddiweddar" 'ta "ers tro byd"? Dwi ddim yn siwr! Newid o i "tan yn gymharol ddiweddar" efallai?! Anatiomaros 20:51, 28 Ionawr 2007 (UTC)[ateb]