Neidio i'r cynnwys

Sgwrs:Tywysogaeth Cymru

Ni chefnogir cynnwys y dudalen mewn ieithoedd eraill.
Oddi ar Wicipedia

Gwaith ardderchog, Sanddef. Dwi wedi bod yn rhy brysur yma ac ar Gomin i ddarllen hyn i gyd, ond hoffwn godi un pwynt bach. 'Deiliad' ('deiliaid') yw'r term arferol am rywun sy'n talu gwrogaeth am ei safle (a'i dir) i arglwydd neu frenin yn y cyd-destun ffiwdalaidd, nid 'tenant(iaid)' ("O'r blaen ystyriasai brenhinoedd Lloegr mai fel prif denantiaid iddynt y daliai'r arglwyddi hyn eu tiroedd yng Nghymru, a'u bod felly i dalu gwrogaeth i frenin Lloegr a thyngu llw o ffyddlonder iddo. Ond drwy gytundeb 1267 cydsyniodd Harri III fod "holl farwniaid Cymreig Cymru" i ddal eu tiroedd fel prif denantiaid i dywysog Cymru"). Anatiomaros 00:20, 3 Mawrth 2010 (UTC)[ateb]

ON Mae dolen goch ar y dudalen Deiliad (gwahaniaethu); bydd angen ei llenwi rywbryd, mae'n debyg! Anatiomaros 00:23, 3 Mawrth 2010 (UTC)[ateb]

Dw'i'n credu bod JG Edwards yn gwneud cymhariaeth wrth eu disgrifio fel prif denantiaid. Petawn ni'n defnyddio'r term "deiliaid" byddai'n rhaid newid y geiriau o fel prif denantiaid' i yn ddeiliaid, oherwydd dim ond yr arglwyddi sy'n talu gwrogaeth i frenin (neu dywysog) a ddisgrifir fel "deiliaid". Sanddef 18:03, 3 Mawrth 2010 (UTC)[ateb]
Cywiriad: gallai "deiliad" fod yn denant llai ei statws hefyd. Dim ond yn Saesneg ydy'r gair "vassal" yn gyfyngedig i'r arglwyddi. Felly gellir dweud fel prif ddeiliaid yn Gymraeg wedi'r cwbl. Sanddef 18:09, 3 Mawrth 2010 (UTC)[ateb]
Rhaid cofio hefyd nad oedd y Gymru annibynnol wedi ei ffiwdaleiddio yn llwyr. Roedd yr arglwyddi Cymreig llai yn "ddeiliaid" i Dywysog Cymru efallai, ond ni ddibynnai eu statws ar dalu gwrogaeth fel y cyfryw; ar un ystyr roedden nhw ar yr un lefel a'r tywysogion mawr am eu bod i gyd yn uchelwyr o dras. (Sori, mae cinio'n barod.. mwy nes ymlaen, efallai!). Anatiomaros 18:44, 3 Mawrth 2010 (UTC)[ateb]

Ail strwythuro'r erthygl ychydig

[golygu cod]

Mae trafodaeth y Y Caffi ynglyn a'r erthylg yma, a'r ffaith yr adran agoriadol yn rhy faith. Dwi ofn difethau'r holl beth, ond dw i'n meddwl dylai cael crynobed mwy...er, cryno! Beth am gytuno yma pa ffeithiau fyddai'n cael eu cadw yn y cyflwynoiad, a beth ddylied ei adael ar gyfer y prif gorff?Teitl y cyswllt--Ben Bore 13:51, 8 Mawrth 2010 (UTC)[ateb]