Sgwrs:Tuduriaid Penmynydd

Ni chefnogir cynnwys y dudalen mewn ieithoedd eraill.
Oddi ar Wicipedia


Untitled[golygu cod]

Brawddeg amwys: yn cynwys "(oedd wedi marw cyn dechrau gwrthryfel Glyndŵr) yn ddiweddarach..." sy'n cynnwys ffaith amhosib ac sy'n niwlog ei hystyr (i mi, o leiaf!) Llywelyn2000 21:38, 3 Mawrth 2009 (UTC)[ateb]

Dwi wedi newid y testun rywfaint. Gobeithio fod y niwl yn deneuach rwan! Anatiomaros 22:40, 3 Mawrth 2009 (UTC)[ateb]
Yn glir fel 'gin'! Mi dria i gael ffoto o'r ardal pan fyddai draw yno, a'r capel. Llywelyn2000 22:46, 3 Mawrth 2009 (UTC)[ateb]
Basa hynny'n wych, Llywelyn. Mae gennym ni lun o'r eglwys yn barod (tynwyd gen i ar ddiwedd pnawn gaeafol, yn y gwyll bron!), ond basa lluniau o'r ardal yn grêt (a llun gwell o'r eglwys o ran hynny). Mae beddrod Tudur a Myfanwy yn yr eglwys ond doedd neb yn nhŷ ceidwad y goriad pan oeddwn i yno: basa llun o'r gofeb - sy'n ddelwedd cyfarwydd iawn mewn llyfrau hanes, wrth gwrs - yn ychwanegiad braf i'r hen wici. Anatiomaros 23:00, 3 Mawrth 2009 (UTC)[ateb]
Gwnaed yn ol f'addewid. Methais y plasdy ei hun, ysywaeth. Daw cyfle eto, gobeithio. Llywelyn2000 13:34, 14 Ebrill 2009 (UTC)[ateb]
Bendigedig, Llywelyn! Dydwi erioed wedi bod yn yr eglwys ei hun, ond ei gweld o'r tu allan; doedd y ceidwad ddim ar gael y tro dwetha... Diolch o'r galon am y lluniau! Anatiomaros 13:45, 14 Ebrill 2009 (UTC)[ateb]