Sgwrs:Theorem codio ffynhonnell Shannon
Gwedd
Dwi'n cynnig y gwelliant
- 'yn sefydlu terfynau cywasgiad data dichonadwy'
yn lle "yn sefydlu arffiniau ar ba gywasgiad data sy'n bosib". (Dwi'n cymryd fod 'posibl/dichonadwy' yn cyfeirio at 'cywasgiad data' yn hytrach nag 'arffiniau/terfynau'). Dydwi ddim yn fathemategydd, o bell ffordd, ond mae'n swnio'n llai trwsgl ac mae'n fwy cryno hefyd. Anatiomaros 18:20, 24 Ebrill 2007 (UTC)
- Mae geiriadur Bruce yn awgrymu côd dehongladwy ar gyfer decipherable code. - Tomos ANTIGUA Tomos 21:24, 24 Ebrill 2007 (UTC)
- Mae hynny'n gwneud synnwyr. Roeddwn wedi meddwl am 'dehongladwy' ond dim yn mentro ei awgrymu gan mod i'n gwybod cyn lleied am faths! Anatiomaros 21:27, 24 Ebrill 2007 (UTC)
- Diolch. Wedi newid pethau. Roeddwn i wedi ystyried defnyddio "dehongladwy," ond roeddwn i'n ansicr ynglyn a sut i gyfieithu decipher (mae ystyr dehongli yn agosach i interpret fel arfer, 'tydi?), a bach yn swil am roi -adwy ar y diwedd. Dwi wedi ail-eirio'r frawddeg cynta fel ei fod yn fwy darllenadwy gobeithio. Hwyl --Llygad Ebrill 08:25, 25 Ebrill 2007 (UTC)