Sgwrs:Sir Ddinbych

Ni chefnogir cynnwys y dudalen mewn ieithoedd eraill.
Oddi ar Wicipedia

Rydwy'n meddwl mae Llangollen yn dod o dan Wrecsam rwan -- Arwel 23:39, 6 Maw 2004 (UTC)

Rhoi'r Categori i fewn yn awtomatig[golygu cod]

Gall rywun ddweud wrthyf pam nad ydy'r rhestr o bentrefi ddim yn ymddangos o dan y pennad 'Pentrefi'. Mae'n amlwg 'mod i wedi methu yn rhywle. Diolch. Llywelyn2000 23:06, 6 Mawrth 2009 (UTC)[ateb]

S'mae, Llywelyn. Dwi ddim cweit yn deall. I gael dolen i'r categori mae angen hyn: [[:Categori:Pentrefi Sir Ddinbych]] (PWYSIG: mae angen y colon ar y dechrau, cyn y gair Categori, neu mi fydd yn rhoi'r erthygl ei hun yn y categori hwnnw). Yr unig ffordd i gael rhestr o'r pentrefi ydy ei theipio (wrth reswm...) neu, yn haws, gopio a phastio'r enwau sydd yn y categori ei hun (ond bydd angen eu tacluso, wrth gwrs). Anatiomaros 23:21, 6 Mawrth 2009 (UTC)[ateb]
Copio a phastio amdani felly, gyfaill! Piti, mi faset yn meddwl y gellid byrlymu'r rhestr fel ag a wenir cyga chynnwys erthygl (ee 'pigion' i fewn i'r dudalen Hafan). Ta waeth, fe ddaw! Llywelyn2000 23:29, 6 Mawrth 2009 (UTC)[ateb]
A, dwi'n deall rwan. Ond nodyn yw'r peth am hynny (ond mae'r nodyn Trefi Sir Ddinbych ({{Trefi Sir Ddinbych}}) yn cynnwys y trefi a'r pentrefi gyda'i gilydd, ac mae o yno beth bynnag ar waelod y ddalen, neu mi ddylai fod). Fel arall mae copio a phastio yn llwybr tarw digon cyfleus. Anatiomaros 23:41, 6 Mawrth
I gael y nodyn hwnnw o bentrefi a threfi i fyny, mae angen teipio: {{Trefi_Sir_Ddinbych}}. Pam nad rhestr o drefi a geir. Mae'n cynnwys y ddau? Onid gwell na copio a phastio ydyw eu cael yn diweddaru'n otomatic fel hyn? Llywelyn2000 23:50, 6 Mawrth 2009 (UTC)[ateb]