Sgwrs:Seiri Rhyddion

Ni chefnogir cynnwys y dudalen mewn ieithoedd eraill.
Oddi ar Wicipedia

Enw'r erthygl[golygu cod]

Dylai'r teitl god yn "Saer Rhyddiaeth" neu "Saer-ryddiaeth" rwy'n credu. Ar hyn o bryd, mae'n dweud, "Freemasons" fel yn cyfeirio at y bobl, ac nid yr ymarfer o'r grefydd. Trafodwch. -- Xxglennxx (sgw.cyf.) 15:16, 9 Hydref 2010 (UTC)[ateb]

Saer Rhydd, Glenn, neu Ffedogwr 'da ni'n ei ddeud yn yr ardal hon! Llywelyn2000 07:24, 10 Hydref 2010 (UTC)[ateb]
Yn ôl Geiriadur yr Academi, y gair Cymraeg am Freemason ydy Saer Rhydd (lluosog: Seiri Rhyddion) a'r enw Cymraeg am Freemasonry' ydy y Seiri Rhyddion, Seryddiaeth Rydd neu Masiwnaeth Rydd. Yn bersonol, dw i'n meddwl y dylid symud y dudalen i "Y Seiri Rhyddion" am ei fod yn gyfeiriad mwy penodol at y mudiad yn hytrach nag at unigolion sy'n aelod o'r mudiad hwnnw. Mae "seryddiaeth rydd" yn swnio'n rhy astrolegol yn fy marn i, tra bod "Saer rhyddiaith" neu "saer-ryddiaeth" yn gwneud i mi feddwl am lenyddiaeth, yn hytrach na "rhydd-id". Pwyll 08:20, 10 Hydref 2010 (UTC)[ateb]
Dwi ddim yn gwrth-ddweud nad "Seiri Rhyddion" yw "Freemasons" fel y bobl, ond dyw Wicipedia ddim yn cyfeirio at bobl, neu fydd enw'r erthygl Paganiaeth yn Paganiaid. Mae angen cyfeirio at y "grefydd" ac nid ei dilynwr (dwi ddim isio dadl os mai crefydd yw Seryddiaeth Rydd ;D). Dyna reol Wici, ac nid ydym yn gallu newid y peth. Os edrychem ni ar en, mae'n dweud ar y top, "Freemasons" redirects here" gan ei fod yn cyfeirio at y bobl, ac nid y mudiad. Gan fod dim gwir enw Cymraeg ar y peth, mae hawl inni fathu term sy'n cyfleu "Freemasonry." Yn methu hwnnw, wi o blaid "y Seiri Rhyddion," ond wedyn sut allwn ni greu'r paragraff agoriadol? "Cymdeithas brawdol a ddechreuwyd rhwng y 16eg a 17eg canrifoedd yw "Freemasonry."" Nid ydym yn gallu defnyddio "y Seiri Rhyddion" (neu saer/seiri rhydd) fan hyn, oherwydd nad yw'n cyfeirio at y frawdoliaeth. -- Xxglennxx (sgw.cyf.) 13:02, 10 Hydref 2010 (UTC)[ateb]