Sgwrs:Sain Ffagan
![]() |
Mae'r erthygl hon yn rhan o WiciBrosiect Cymru, prosiect cydweithredol ar Gymru. Os ydych am gyfrannu, ewch i hafan y prosect, ymunwch â'r drafodaeth a gwelwch y rhestr o bethau sydd angen eu gwneud.
|
Oes unrhyw un yn gwybod FAINT o ganeuon, tonau, recordiad ar dâp ayb sydd yn archifdy Sain Ffagan? Mi garwn ychwanegu sain y delyn ar erthygl Wici 'Telyn' a sain y delyn deires ar yr erthygl 'Telyn Deires'. Staff Sain Ffagan: ydych chi wedi cychwyn digideiddi'r cyfoeth yna sydd yn eich seleri? Llywelyn2000 07:39, 22 Awst 2008 (UTC)
- Byddai'n werth rhoi galwad iddynt/danofn e-bost atynt manylion cyswllt yma. Efallai cawn ein synnu. Dylai hawlfraint ddim bod yn broblem dybiwn i gan mai eu recordiau nhw eu hunain yw llawer ohonynt, a bod y lleil yn hen iawn fel nad oes hawlfraint arnynt bellach.
- Roedd yn ymddangos fel bod yr Amgueddfa Genedlaethol fel sefydliad wedi ceisio 'cofleidio' dulliau newydd Web2.0 yn gymharol ddiweddar fel rhyw bolisi. Aethant mor bell a dechrau cyfres o flogiau ar gyfer staff - er mae'n ymddangos bod hwn wedi chwythu ei blwc erbyn hyn. Wedi dweud hynny, ma blog 'Cyfryngau Newydd ' (ar y dewislen ar y dde) yn dangos fel mae'r sefydliad yn chwilio am dduliau newydd o gyflwyno eu casgliadau. --Ben Bore 09:43, 22 Awst 2008 (UTC)