Sgwrs:Rhestr ffilmiau Cymraeg

Ni chefnogir cynnwys y dudalen mewn ieithoedd eraill.
Oddi ar Wicipedia

[gwadiad: fi yw golygydd gwefan Yn y Ffrâm] Dwi ddim isio mynd ati i wneud golygiadau sydd am gael eu newid, ond ga i awgrymu eich bod chi'n rhoi dolen i'r dudalen am y ffilm berthnasol ar wefan Gymraeg http://ynyffram.org yn hytrach nac i dudalennau Saesneg IMDb? Mae'r wybodaeth ar ynyffram hefyd yn fwy tebygol o fod yn gywir gan ei fod wedi cael ei ffurfio drwy waith academaidd yn ogystal a thrawsgrifio o credits y ffilmiau eu hunain. Mae yno hefyd wybodaeth dipyn dyfnach ar y ffilmiau nac sydd ar Imdb.

Ar nodyn pellach, mae'r rhestr oedd ar wefan Pictiwrs.com nawr wedi mynd oddi arlein oherwydd problemau spam. Galla i roi'r rhestr gyflawn yn y gofod sgwrs os hoffech er mwyn ceisio eu hychwanegu at yr erthgyl hon ychydig ar y tro. --Rhodri ap Dyfrig 16:17, 23 Mai 2011 (UTC)[ateb]

Does dim gen i farn am hyn, felly wna i ei adael i bobl eraill i benderfynu, ond hoffwn i eich diolch chi am eich bod yn agored am y ffaith mai chi yw golygydd y wefan honno. Peredur ap Rhodri 17:42, 23 Mai 2011 (UTC)[ateb]
Beth am gynnwys dolenni at y ddau wefan? O leiaf gall bobl fanteisio o'r holl wybodaeth sydd ar gael. Pwyll 18:25, 23 Mai 2011 (UTC)[ateb]
Digon teg. Wn i ddim os oes gan Wicipedia rôl neu bolisi penodol i hyrwyddo dolenni i wybodaeth Gymraeg lle bo ar gael. Yn sicr byddwn i'n ffafrio hynny y tu hwnt i'r dudalen benodol hon. --Rhodri ap Dyfrig 22:54, 23 Mai 2011 (UTC)[ateb]

Dyma'r rhestr sydd gen i te:

Teitl y Ffilm Cyfarwyddwr Blwyddyn Rhyddhau 31:12:99 Rhys Powys 1999 A Barcud Yn Farcud Fyth Siôn Humphreys 1992 Ac Eto Nid Myfi Siôn Humphreys 1989 Aderyn Papur Stephen Bayly 1984 Aduniad, Yr Ceri Sherlock 1998 Aelwyd Gartrefol (Alan Clayton, ?) Alan Clayton Alcoholig Llon, Yr Karl Francis 1983 Alltud, Yr Siôn Humphreys 1989 Amlyn ac Amig (?, 1986, ?) 1986 Angel O'r Nef Siôn Humphreys 1985 Ar Lan y Mor (? , 1985, 85 mun) 1985 Arian Llosg (?, 1994) 1994 Blodeuwedd Siôn Humphreys 1985 Blumenfeld (?, 1985, 100 mun) 1985 Branwen Ceri Sherlock 1994 Bydd Yn Wrol Terry Dyddgen Jones 1998 Byw Yn Dy Groen Pip Broughton 2001 Byw Yn Rhydd Siôn Humphreys 1987 Cameleon Ceri Sherlock 1997 Camgymeriad Gwych Marc Evans 2000 Chwarelwr, Y Ifan ab Owen Edwards 1935 Chwedl Nadolig Richard Burton (?, 1990, 60 mun) 1990 Cloc, Y Endaf Emlyn 1986 Cwm Hyfryd Paul Turner 1993 Cylch Gwaed Alun Ffred Jones 1992 Cylch Gwaed 2 Cymer Dy Siâr (?, 1999) 1999 Dafydd Ceri Sherlock 1993 Dal: Yma/Nawr Marc Evans 2004 Delyn, Y Robin Davies Rollinson 2001 Derfydd Aur (?, 1989, 105 mun) 1989 Deryn Dolig Alun Ffred Jones 1985 Dial Paul Turner 1995 Dieithryn, Y Emlyn Williams 1976 Dirgelwch Yr Ogof Endaf Emlyn 2002 Diwrnod Hollol Mindblowing Heddiw Euros Lyn 2000 Dwr A Thân Siôn Humphreys 1991 Dyddiadur Dyn Dwad (Emlyn Williams, 1989/1992?) Emlyn Williams Dylluan Wen, Y (?, 1996) 1996 Dyn 'Nath Ddwyn y Dolig, Y Endaf Emlyn 1985 Dyn Swllt, Y Alun Ffred Jones 1989 Eira Cynta'r Gaeaf (?, 1992) 1992 Eldra Tim Lyn 2002 Elenya Steve Gough 1991 Etifeddiaeth, Yr Geoff Charles a John Roberts Williams 1949 Fargen, Y Strathford Hamilton 1996 Ferch Dawel, Y Gareth Lloyd Williams 1997 Gadael Lenin Endaf Emlyn 1993 Gaucho Endaf Emlyn 1983 Gwaed Ar Y Sêr Wil Aaron 1975 Gwaith, Y Stephen Bayly 1984 Gwenoliaid (?, 1986) 1986 Gwr y Gwyrthiau Stanislav Sokolov a Derek Hayes 1999 Gwyfyn Euros Lyn 2002 Gwynfyd Emlyn Williams 1992 Hedd Wyn Paul Turner 1992 Heliwr, Yr Peter Edwards 1991 Hen Dynnwr Lluniau, Yr Wil Aaron 1973 Hualau (Sion Humphreys, diwedd yr 80au?) Siôn Humphreys I Fro Breuddwydion Ken Howard 1987 Iâr Fach yr Haf (?, ?) Ibiza, Ibiza (?, 1986) 1986 Joni Jones (Stephen Bayly, ?) Stephen Bayly Leni (?, 1991, 105 mun) 1991 Lleill, Y Emyr Glyn Williams 2005 Llety Piod Ceri Sherlock 1995 Llid y Daear Karl Francis 1989 Lliwiau (?, 1988, 85 mun, ) 1988 Llwybr Defaid (?, ?) Lois Eurwyn Williams 1999 Mabinogi, Y Derek Hayes 2003 Mabinogi, Y Chris Monger a Geoff Moore 1984 Macsen Gareth Wynn Jones 1983 Madam Wen Pennant Roberts 1982 Mapiwr, Y Endaf Emlyn 1995 Mela Emlyn Williams 2004 Midffild Alun Ffred Jones 1992 Milwr Bychan Karl Francis 1986 Mwg Glas, Lleuad Waed (?, 1988, 105 mun) 1988 Mynydd Grug, Y Angela Roberts 1997 Nel Meic Povey 1991 Newid Gêr Alan Clayton 1979 Noson Lawen Mark Lloyd 1950 O.G. Gareth Wynn Jones 1981 O.M. Emlyn Williams 1990 O'r Ddaear Hen Wil Aaron 1981 Oed yr Addewid (i)(?, 1987) 1987 Oed Yr Addewid (ii) Emlyn Williams 2002 Owain Glyndwr James Hill 1983 Penyberth Plant Y Tonnau Alun Ffred Jones 1986 Plentyn Cyntaf, Y Siôn Humphreys 1998 Porc Pei Paul Turner 1998 Priodas Gwen (Sion Humphreys, ?) (awduron: Elliw Haf a Iola Gregory) Siôn Humphreys Pum Cynnig i Gymro Peter Edwards 1997 Rhew Poeth Alun Ffred Jones 1987 Rhith y Lloer (?, 1989, 90 mun) 1989 Rhosyn a Rhith Stephen Bayly 1986 Scersli Bilîf Wil Aaron 1974 Sgid Hwch Alun Ffred Jones 1992 Sgwar y Sgorpion (?, 1994, 85 mud) 1994 Sigaret ? ? Sion a Sian Tim Lyn 2003 Siwan Siôn Humphreys 1986 Solomon a Gaenor Paul Morrisson 1999 Steddfod Steddfod (?, 1995) 1995 Stormydd Awst Endaf Emlyn 1987 Tân ar y Comin David Hemmings 1993 Teisennau Mair Gareth Wynn Jones 1979 Teulu Helga Siôn Humphreys 1985 Tom Nefyn (?, 1994) 1994 Tra Bo Dwy Paul Turner 1984 Twll O Le Siôn Humphreys 1986 Tyd Yma Tomi Gareth Wynn Jones 1984 Tywyll Heno (?, 1986) 1986 Un Fran Ddu (Siôn Humphreys, ?) Siôn Humphreys Un Nos Ola' Leuad Endaf Emlyn 1991 Weithred, Y (?, ?) Wil Six Paul Turner 1984 Wyn I'r Lladdfa (Siôn Humphreys, 80au cynnarish?) Siôn Humphreys Yma I Aros (?, 90au cynnar?) Ymadawiad Arthur Marc Evans 1994 Yn Gymysg Oll I Gyd (?, 1997) 1997 Ysbryd y Nos (?, 1985, 90 mun) 1985 Ysglyfaeth Gareth Wynn Jones 1984

Dwi ddim yn siwr sut mae mewnforio tabl i Wicipedia, felly ma braidd yn amrwd, ond yn sicr gellid ychwanegu llawer iawn at y rhestr ar y Wici. Cwestiwn arall wrth gwrs yw 'beth yw diffiniad ffilm?' yn yr achos hwn. Mae rhai o'r uchod wedi eu saethu ar ffiln ond yn llai na hyd 'feature'. Mae rhai yn ffilmiau ar ffilm a saethwyd ar gyfer y teledu ac na chafodd unrhyw ddosbarthiad theatrig. --Rhodri ap Dyfrig 16:00, 26 Medi 2011 (UTC)[ateb]

Gan bod 'cystrawen' meddalwedd mediawiki mor unigryw, mae'n debyg nad oes ffordd o fewnforio tabl yn hawdd (cywirwch fi os dw i'n anghywir - plis!). O ran hyd y ffilm (ai dyna sy'n dynodi os yw'n feature neu beidio?) gallwn fod a colofnau sortable. Gallwn hefyd gael colofn Dosbarthiad Theatrig DO/NADDO. Heb edrych ar Y FFram i weld os yw'r wybodaeth yma ar gael, ond oes gwerth hefyd nodi'r cwmni cynhyrchu?--Ben Bore 09:00, 27 Medi 2011 (UTC)[ateb]
Edrych fel bod y wefan yma'n gallu gwneud y job Excel -> MediaWiki http://excel2wiki.net/ --Rhodri ap Dyfrig 17:55, 9 Tachwedd 2011 (UTC)[ateb]

Gyda llaw, oes pwynt cael http://cy.wikipedia.org/wiki/Categori:Ffilmiau_Cymraeg a tudalen Rhestr Ffilmiau Cymraeg, yn enwedig pan nad yw'r ddau'n cyfateb?

Man a man, achos bydd yn ymddangos o fewn mam-gategoriau fel 'Ffilmiau yn ol iaith' a 'Diwylliant Cymraeg' ayyb. Os nad yw'r ddau'n cyfateb (cynnwys y categori ddim mor gyflawn?) yna mater o greu erthygalu unigryw ar gyfer pob ffilm yw hyn ie ddim?--Ben Bore 09:00, 27 Medi 2011 (UTC)[ateb]

Rhoi'r uchod ar ffurf tabl[golygu cod]

Rhywbeth od yn digwydd gyda'r golofn olaf (sydd didm i fo dyna). Ddim yn siwr sut i'w drwsio.

Teitl y Ffilm Cyfarwyddwr Blwyddyn Rhyddhau
31:12:99 Rhys Powys 1999
A Barcud Yn Farcud Fyth Siôn Humphreys 1992

Cynnig arall:

Rhestr Ffilmiau Cymraeg
Teitl y Ffilm Cyfarwyddwr Blwyddyn Rhyddhau
31:12:99 Rhys Powys 1999
A Barcud Yn Farcud Fyth Siôn Humphreys 1992

Cofion, John Jones 18:30, 9 Tachwedd 2011 (UTC)[ateb]


... neu os wyt ti isio eu sortio, yna mi fedri di addasu hwn:
Rhestr Ffilmiau Cymraeg
Teitl y Ffilm Cyfarwyddwr Blwyddyn Rhyddhau
31:12:99 Rhys Powys 1999
A Barcud Yn Farcud Fyth Siôn Humphreys 1992
Ac Eto Nid Myfi Siôn Humphreys 1989
Aderyn Papur Stephen Bayly 1984
Aduniad, Yr Ceri Sherlock 1998

Mae 'na dipyn o wybodaeth yma. Pob lwc! Mi fydd yn ychwanegiad arbennig i Wicipedia ac i'r genedl.

John Jones 18:35, 9 Tachwedd 2011 (UTC)[ateb]

Job done![golygu cod]

Diolch John. Gan nad oes neb arall wedi mynd i'r afael a'r gwaith, wele: gorffennwyd! Mae croeso i bawb lenwi'r bylchau wrth gwrs - gwaith ditectif amheuthun i rywun! Llywelyn2000 06:55, 18 Ionawr 2012 (UTC)[ateb]

Diolch yn fawr Llywelyn2000. Edrych yn dda! --Rhodri ap Dyfrig 10:16, 18 Ionawr 2012 (UTC)[ateb]