Neidio i'r cynnwys

Sgwrs:Rhestr Cernywiaid

Ni chefnogir cynnwys y dudalen mewn ieithoedd eraill.
Oddi ar Wicipedia

Dileu llawer o Gernywiaid o'r rhestr

[golygu cod]

Mae'n ymddangos bod ListeriaBot wedi dileu llawer o Gernywiaid o'r rhestr, gan gynnwys AL Rowse, John Couch Adams a Bob Fitzsimmons, heb eglurhad. Oes gan rhywun esboniad? Mae'r ffeil llai na hanner y maint roedd yn arfer bod. Neu ydw i wedi camddeall? Brwynog (sgwrs) 14:37, 8 Mehefin 2024 (UTC)[ateb]

DIM SYNIAD! Dw i di chwilio a chwalu! Y peth cyntaf aeth drwy fy meddwl i oedd fod na bot wedi newid man geni o Gernyw (gwlad) i Gernyw hanesyddol. Ond na! Mae na bobl wedi'u dileu heb newid ar eu tudalen WD nhw ers blwyddyn a mwy! Does neb chwaith wedi newid y cod a roddais ar y dudalen hon (Rhestr Cernywiaid). Diddorol sylwi i Listeria ddileu cannoedd o'r fersiwn Gernyweg hefyd. Efallai fod rhywbeth wedi effeithio Listeria (peswch neu waeth!) ac a dont yn ol y mis nesa! Cawn weld! Os nad, yna gelli adael neges yn holi eto ar Wicidata, yn fama. Llywelyn2000 (sgwrs) 19:39, 8 Mehefin 2024 (UTC)[ateb]
@Brwynog: mae rhai defnyddwyr yn newid Cernyw Q23148 (gwlad a sir draddodiadol) i --> Cernyw (yr ardal weinyddol gyfoes, nid y wlad/sir hanesyddol) sef Q22338583. Mae angen dadlau yn erbyn hyn, ond yn y cyfamser, gallaf ychwanegu'r ail god (Q22338583) i'r cod Wicidata Lists ar y dudalen. Dyma un enghraifft. Ond mae gen i gant a mil o bethau sydd angen ei wneud,felly 'mam inni yw amynedd'! Can diolch! Llywelyn2000 (sgwrs) 09:42, 10 Mehefin 2024 (UTC)[ateb]
Diolch Robin. Dwi'n gweld ein bod wedi colli llwyth arall o ddata ar y 10fed. Mae maint y ffeil i lawr i 25kb yn lle 148kb fel o'r blaen. Brwynog (sgwrs) 07:34, 13 Mehefin 2024 (UTC)[ateb]