Sgwrs:Priodas

Ni chefnogir cynnwys y dudalen mewn ieithoedd eraill.
Oddi ar Wicipedia

Dau berson (neu ragor)[golygu cod]

@Adam Gan mai diffiniad cyffredinol sydd ei angen ar ddechrau erthygl, byddai newid 'Uniad ffurfiol rhwng dau berson' yn well na 'Uniad ffurfiol rhwng dau berson neu ragor' yn fy marn i. Peth prin iawn y dyddiau hyn yw 'polygamy' a gellir ei drafod yng nghorff yr erthygl. Os mai dymuno son am y 'bond' rhwng y ddau deulu wyt ti, yna gellir son am hynny yn sgil uno dau berson ee 'Uniad ffurfiol rhwng dau berson neu ragor sy'n gosod seiliau i gyfathrach, hawliau a dyletswyddau rhyngddynt - a'u teuluoedd ymestynol...' Llywelyn2000 (sgwrs) 07:22, 2 Ionawr 2015 (UTC)[ateb]

Ceisio creu'r diffiniad mwyaf gynhwysfawr posib oeddwn i, megis y diffiniad sydd yn y ffynhonnell (y llyfr Cultural Anthropology). Mae'r frawddeg gyntaf ar y Wicipedia Saesneg yn dweud yn syml "between spouses", ond bydd hyn yn ailadroddus yn y Gymraeg ("Uniad rhwng pobl sy'n briod yw priodas"!). Mae GPC yn cyfeirio at "Uniad (ffurfiol) rhwng dyn a menyw", wrth gwrs, gan taw hon yw'r ffurf draddodiadol, Cristnogol o briodas yng Nghymru ac felly diffiniad y gair Cymraeg ers canrifoedd. Mae'r Britannica yn dweud "usually between a man and a woman" yn y frawddeg gyntaf. Os wyt ti eisiau newid hyn (a symud y cyfeiriad Cultural Anthropology i'r frawddeg ar amlbriodas yn y pedwerydd baragraff), nid oes gwrthwynebiad gennyf. —Adda'r Yw (sgwrs · cyfraniadau) 18:43, 2 Ionawr 2015 (UTC)[ateb]