Sgwrs:Pentredŵr

Ni chefnogir cynnwys y dudalen mewn ieithoedd eraill.
Oddi ar Wicipedia

Angen gwahaniaethu[golygu cod]

Mae 'na ddau le o'r un enw gyda'r sillafiad yn amrywio yn y ddau achos. Os nad oes ffynhonnell swyddogol am y ffurf 'Pentredŵr' dwi'n awgrymu symud hyn i Pentre-dŵr, Wrecsam (gweler Pentre-dŵr) i osgoi dryswch. Yn anffodus dydy Enwau Cymru ddim yn cofnodi'r pentref o gwbl, dim ond yr un yn Sir Ddinbych (Pentre-dŵr, Sir Ddinbych ar ôl i mi symud o). Ydy hynny'n iawn? Anatiomaros 20:29, 1 Chwefror 2010 (UTC)[ateb]

Does dim hyphen ar wefan cyngor Wrecsam, nag ar y map. Dyma'r unig beth arall wnes i ddigwyd dod ar ei draws falle fasai'n helpu ar gyfer niger o enwau [1] Thaf 20:36, 1 Chwefror 2010 (UTC)[ateb]
Iawn felly, os dyna'r ffurf gan y Cyngor Sir 'Pentredŵr' amdani. Piti nad ydy pob cyngor sir yng Nghymru yn dilyn esiampl Cyngor Sir Gaerfyrddin a sefydlu panel i ymchwilio i enwau lleoedd ac wedyn mabwysiadu rhestr safonol o'r ffurfiau swyddogol a ddefnyddir gan y sir! (gw. Sgwrs:Sir Gaerfyrddin). Dwi wedi gweld argymhellion Bwrdd yr Iaith ond dydy o ddim yn ddatrys y broblem ymhob achos (rhaid ystyried sillafiad arferol Cymry Cymraeg lleol, er enghraifft, ac mae ffactorau eraill hefyd). Anatiomaros 20:43, 1 Chwefror 2010 (UTC)[ateb]