Sgwrs:Mynydd Twr

Ni chefnogir cynnwys y dudalen mewn ieithoedd eraill.
Oddi ar Wicipedia

Twr/Tŵr[golygu cod]

Cyn i hyn gael ei symud roedd yr adran ar eirdarddiad yr enw yn darllen fel hyn:

"Mae'n naturiol i siaradwyr Cymraeg feddwl mai "Mynydd (y) Tŵr" yw'r ffurf gywir ar yr enw, ond camgymeriad yw hynny. Mae'r gair twr yma yn golygu "tomen, cruglwyth" (ail elfen y gair "pentwr") ac yn cyfeirio at y twr o gerrig neu garnau ar ben y mynydd."(ref)

Rwan mae'n deud:

"Mae'n naturiol i siaradwyr Cymraeg feddwl mai "Mynydd (y) Tŵr" yw'r ffurf gywir ar yr enw, ond camgymeriad yw hynny. Mae'r gair tŵr yma yn golygu "tomen, cruglwyth" (ail elfen y gair "pentwr") ac yn cyfeirio at y tŵr o gerrig neu garnau ar ben y mynydd."

Hollol anghywir yw hynny: nid yr un peth ydy 'tŵr' a 'twr'. Roedd yn gamgymeriad symud hyn. Anatiomaros 22:46, 30 Medi 2010 (UTC)[ateb]

Dw i wedi ei symud yn ôl i Twr am rwan, ond dw i ddim yn hapus o gwbwl am y sillafiad. Dywed [1] Coflein: Excavations in 1980-1 revealed traces of Roman buildings including the footings of a 5.45m square stone tower. Ond, Mynydd y Twr yw eu sillafiad nhwtha, felly mi blyga i o dy flaen, am rwan! Diolch. Llywelyn2000 23:04, 30 Medi 2010 (UTC)[ateb]
Diolch Llywelyn. Dwi mond yn dilyn yr hyn mae'r ieithgwn yn ei ddeud. Yn sicr mae 'twr' (cruglwyth ayyb) yn gwneud synnwyr ac mae'n elfen weddol gyffredin mewn enwau lleoedd eraill hefyd. A ydy'r ditectifs geiriau'n iawn y tro yma neu ddim sy'n gwestiwn arall wrth gwrs, ond rhaid i ni dderbyn eu barn oni bai fod nifer sylweddol o ffynonellau academaidd yn dadlau o blaid 'tŵr' yn lle 'twr'. Anatiomaros 23:11, 30 Medi 2010 (UTC)[ateb]

Amlygrwydd y copa[golygu cod]

Dwi ddim yn deall hyn: "Uchder cymharol, neu ”amlygrwydd” y copa, ydy 0metr: dyma'r uchder mae'r copa'n codi uwchlaw'r mynydd agosaf." Anatiomaros (sgwrs) 00:16, 8 Awst 2014 (UTC)[ateb]