Sgwrs:Mynydd Bodran

Ni chefnogir cynnwys y dudalen mewn ieithoedd eraill.
Oddi ar Wicipedia


Untitled[golygu cod]

Helo,

wedi bod yn ymchwilio ystyr yr enw Bodran ac wedi dod o hyd i'r safle hwn. Mae'n ddrwg gen i ddweud mai nid Mynnydd Bodran sydd gennych yn y llun ond Mynydd y Gaer. Rydan ni'n byw yng nghesail Mynydd Bodran ac yn amaethu'r llethrau ac yn adnabod y mynydd yn hynod o dda. 80.175.8.125

Diolch am roi gwybod. Rwyf wedi cael gwared o'r llun. Oes gan rhywun lun o'r Mynydd Bodran go-iawn? Porius1 11:20, 2 Mai 2010 (UTC)[ateb]

Ia, diolch am y wybodaeth. Mae'n flwyddyn neu ddwy ers i mi fod yn ardal Llanfair Talhaearn ar fy nheithiau, ond mynd yn ôl disgrifiad y ffeil ar Gomin Wicipedia oeddwn i, sef "Green fields near Mynydd Bodran. Green fields used for sheep grazing with Mynydd Bodran in the background." (gweler [1] yma). Rhaid fod y person a dynodd y llun yn drysu felly. Basai'n braf cael llun o'r Mynydd Bodran go iawn i gymryd ei le! Ydy'r llun hwn yn nes ati, tybed? Anatiomaros 17:18, 2 Mai 2010 (UTC)[ateb]