Sgwrs:Mecsico

Ni chefnogir cynnwys y dudalen mewn ieithoedd eraill.
Oddi ar Wicipedia

Teitl[golygu cod]

Mexico? Pam nid Mecsico?

Rwy'n defnyddio 'Mecsico' ac wedi defnyddio'r ffurf Gymraeg hyd fy oes. Fy mhrofiad oedd mai hwn oedd y ffurff cywir a'r ffurff a ddefnyddir gan siaradwyr y Gymraeg. Rwy' yn cofio unwaith 'cywiro' rhywun wnaeth ddefnyddio 'x' ac ni wnaethon nhw gwyno am y newid. Os ydym yn defnyddio 'Mexico', pam nad 'taxi'? Hefyd, pam nad 'England' a 'France' yn lle 'Lloegr' a 'Ffrainc'? —Cafodd y sylw hwn heb lofnod ei ychwanegu gan Huwbwici (sgwrscyfraniadau) 22:13, 14 Awst 2009 (UTC)[ateb]

Gweler y Sgwrs am yr enwau gwledydd yn y Caffi. Gwell i mi beidio deud unrhywbeth arall yma neu mi fydd rhywun yn cyhuddo fi o greu "pwped wici" o'r enw Huwbwici. Anatiomaros 23:35, 14 Awst 2009 (UTC)[ateb]
Pam nad México? Dyna'r gwreiddiol, ynte? Fyddet ti'n gofyn i'r Sais "Mexico? Pam nid México?" Yn bersonol, fe gytunwn â thi, Mecsico sgwenais i erioed, ond mae gennym ni ar Wicipedia Cymraeg reol (neu ganllaw) sy'n gosod ryw fath o safon (neu mi eith pethau'n flêr!). Mi elli di ddarllen ychwaneg am ein canllaw ar enwau gwledydd ar y dydalen yma. Llywelyn2000 01:55, 15 Awst 2009 (UTC)[ateb]
Gyda llaw, yn Estoneg ac un neu ddwy o ieithoedd eraill, mae nhw'n fwy ffonetig na dy awgrym "Mecsico". "Mehhiko" ydy eu gair nhw - sef ynganiad ffonetig o'r Sbaeneg gwreiddiol, yn hytrach na'r Saesneg. Wyt ti am awgrymu mynd gam ymhellach yn Gymraeg, hefyd, a galw'r wlad yn Mehico? Pam lai! Ond yma ar Wici, fel dwi'n dweud uchod, mi rydan ni'n cadw at safonau'r Atlas Cymraeg oni bai fod trafodaeth fel hon; wedyn gellir eithrio. Beth wyt ti'n ei feddwl? Llywelyn2000 02:19, 15 Awst 2009 (UTC)[ateb]