Sgwrs:Llwyau caru (safle rhyw)

Ni chefnogir cynnwys y dudalen mewn ieithoedd eraill.
Oddi ar Wicipedia

Teitl[golygu cod]

Yn ôl Google, mae 'llwyau caru' yn cyfeirio at fath o lwyau llythrennol ('love spoons', nid 'spoons sex position'). [1] Dwi heb ddod o hyd i wefan sy'n cyfeirio at 'spoons sex position' fel 'llwyau caru' ac wrth gwrs dydy Saesneg ddim yn dweud 'love spoons' i gyfeirio at y safle rhyw. Felly, dwi'm yn siwr bod y teitl yn gywir -- ac os mai llwyau caru ydy'r term safonol yn Gymraeg, does dim angen gwahaniaethu achos nad oes erthygl Llwyau caru. Unrhyw sylwadau? Roeddwn i am symud yr erthygl i deitl gwahanol ond mae ofn arna i fod rhywun yn cael ei ddigio wrth hynny. Cathfolant (sgwrs) 22:19, 11 Gorffennaf 2014 (UTC)[ateb]

Dwi'n tueddu i gytuno. Rhaid cymryd gofal wrth bathu termau newydd ar Wicipedia. Beth am y term Ffrangeg Position 99? Mae'n gwneud mwy o synnwyr o weld y llun! 79.75.193.37 22:27, 11 Gorffennaf 2014 (UTC)[ateb]
Dwi wedi dod o hyd i'r erthygl Llwy Garu felly mae fy sylw am 'ddim angen gwahaniaethu' yn anghywir. Sdim ond y problem arall rwan. Cathfolant (sgwrs) 23:40, 11 Gorffennaf 2014 (UTC)[ateb]
Os nad oes gwrthwynebiad, dwi am symud yr erthygl i Llwyau (safle rhyw) rhywbryd yn y dyfodol. Cathfolant (sgwrs) 00:07, 12 Gorffennaf 2014 (UTC)[ateb]
Dim gwrthwynebiad gennyf. Er dwi'n hoffi'r term 'Safle 99' hefyd, mae'n debyg mai cyfieithiad o'r term Saesneg byddai'r rhan fwyaf o siaradwyr Cymraeg sydd wedi clywed am spoons (dim llawer?) yn disgwyl gweld fel y term Cymraeg. Ond gwell i ti aros am ddiwrnod neu ddau rhag ofn bod rhywun yn gwybod am enw Cymraeg sy'n cael ei arfer (dwi ddim!). Anatiomaros (sgwrs) 00:30, 12 Gorffennaf 2014 (UTC)[ateb]
Dwi'n eitha hoff o'r term "llwyau caru"! Mae'n addasu'r enw Saesneg gan gyfeirio at agwedd o ddiwylliant Cymru, yn hytrach na chyfieithu'r term yn llythrennol. Ond os nad oes ffynhonnell i ddangos ei fod yn cael ei ddefnyddio yn Gymraeg, ni wnaf gwrthwynebu ei symud. Neu efallai gosod nodyn bathu termau ar yr erthygl? —Adda'r Yw (sgwrs · cyfraniadau) 15:59, 12 Gorffennaf 2014 (UTC)[ateb]
Mae {{bathu termau}} yn disgwyl bod y term bathedig yn dod o Saesneg, ac mae llwyau caru yn dod o Gymraeg yn wreiddiol, nid Saesneg. Cathfolant (sgwrs) 18:10, 12 Gorffennaf 2014 (UTC)[ateb]

Mae GyrA yn cynnig "caru" am y ferf "to spoon". Ond wn i ddim am derm "safonol"... -- Xxglennxx (sgw.cyf.) 21:17, 14 Gorffennaf 2014 (UTC)[ateb]