Sgwrs:Llanafan Fawr
Mae'r erthygl hon yn rhan o WiciBrosiect Cymru, prosiect cydweithredol ar Gymru. Os ydych am gyfrannu, ewch i hafan y prosect, ymunwch â'r drafodaeth a chewch restr o bethau sydd angen eu gwneud. Ychwanegwch y nodyn hwn i unrhyw dudalen sy'n ymwneud â Chymru neu Gymry. |
Untitled[golygu cod]
Ai "Tafarn y Llew Goch" ydy enw'r dafarn? Dydw i ddim yn amau neb, wrth gwrs, ond mae'n beth od i drin "llew" fel enw benywaidd gan ei fod mor bendant wrywaidd! Os mai camgymeriad sydd wedi gwreiddio dros y canrifoedd ydyw, does dim problem. Eisingrug 23:24, 9 Gorffennaf 2010 (UTC)
- Rwyt ti yn llygad dy le, wrth gwrs (oni bai fod y dafarn ei hun yn 'goch'!). Anatiomaros 23:34, 9 Gorffennaf 2010 (UTC)
- ON Digon hawdd ei newid os ydy'n amrywiad llafar lleol ond bydd angen ffynhonnell. Anatiomaros 23:37, 9 Gorffennaf 2010 (UTC)
- Dwi 'di trio mynd ar "Google StreetView" ond wela' i ddim Cymraeg yn unlle. Mae'n deg cymryd yn ganiataol mai "Coch" sy'n gywir yn fy marn i. Eisingrug 23:49, 9 Gorffennaf 2010 (UTC)