Sgwrs:Lili Ceri

Ni chefnogir cynnwys y dudalen mewn ieithoedd eraill.
Oddi ar Wicipedia

Dryswch?[golygu cod]

Yn ôl yr erthygl ar y wici S., "Simethis is a genus of plants in the family Xanthorrhoeaceae, subfamily Hemerocallidoideae. It contains only one known species, Simethis mattiazzii, commonly called Kerry Lily." Mae'r enw gwyddonol yn y rhyngwici yn ailgyfeirio i Simethis. Anatiomaros (sgwrs) 00:08, 22 Ionawr 2015 (UTC)[ateb]

ON Wnes i ddim symud hyn i 'Lili Ceri' ond mae angen sortio enw'r dudalen - Lili Ceri neu Simethis. Dwi ddim yn fotanegydd felly does gen i ddim syniad pa un o'r ddau i'w ddewis! Anatiomaros (sgwrs) 00:11, 22 Ionawr 2015 (UTC)[ateb]

Yr awdurdod yma ydy Geiriadur Llen Natur, sy'n cadarnhau'r enwau ar yr erthygl Gymraeg: lili Ceri eb lilïau Ceri Lili Kerry Simethis planifolia Kerry lily - Planhigion Blodeuol; Conwydd a Rhedyn. Cymdeithas Edward Llwyd 2003. Wrth lunio'r erthyglau penderfynwyd defnyddio'r enw Cymraeg (safonol!) pob tro yn hytrach na'r Lladin. Ychwanegwyd y lluosog mewn cangym a mi newidia i hwnnw, wrth gwrs. Dydy'r erthygl 'Simethis planifolia' ddim yn bodoli'n Saesneg, felly mae'r iw yn mynd i'r dudalen agosaf. Gweler yma. Llywelyn2000 (sgwrs) 06:51, 22 Ionawr 2015 (UTC)[ateb]
Diolch. [Ond yn amlwg mae 'na ddryswch rhywle. Yn ôl en: does mond un aelod o'r teulu Xanthorrhoeaceae, sef Lili Ceri, ond "Simethis ... contains only one known species, Simethis mattiazzii, commonly called Kerry Lily." Neu a ydyw'r planhigyn yn cael ei adnabod wrth ddau enw gwyddonol? Dwn i ddim, ond mae rhywbeth yn od yma.]
Wedi datrys y dirgelwch. Dau enw gwyddonol am yr un planhigyn. Gweler Kerry Lily Simethis mattiazzii ((Simethis planifolia) Ac mae'r enw Gwyddelg yna hefyd: Lile Fhíonáin. Anatiomaros (sgwrs) 00:34, 23 Ionawr 2015 (UTC)[ateb]