Sgwrs:Is-etholiad Ynys Môn, 2013

Ni chefnogir cynnwys y dudalen mewn ieithoedd eraill.
Oddi ar Wicipedia


Cynnal ta Cadw?[golygu cod]

Sedd wedi ei chadw gan Plaid Cymru ydi Ynys Môn, nid sedd wedi ei chynnal, ia? Dwi'n siwr mai "cadw" mae'r bbc yn ddefnyddio adeg etholid[1]. Onid "tend" mae cynnal yn ei olygu yn hytrach na "keep"/"hold"? Heb ei arwyddo. Defnyddiwr:Blogdroed; 22:00, 22 Medi 2013‎ Blogdroed.

Rwyt ti'n iawn. Dwi wedi newid y Nodyn:Election box hold with party link fel bod 'cadw' yno rwan yn lle 'cynnal' (sy'n gallu golygu 'maintain' ac felly 'keep/hold' - e.e. "cynnal eu canran o'r pleidleisiau" neu "cynnal etholiad" 'hold an election' - ond nid dyna'r term iawn am gadw sedd, wrth gwrs). Diolch am bwyntio hyn allan! Anatiomaros (sgwrs) 23:50, 22 Medi 2013 (UTC)[ateb]
Diolch i ti! (Mae'n rhaid i mi ddechrau cofio arwyddo sgyrsiau!!) --Blogdroed (sgwrs) 10:07, 23 Medi 2013 (UTC)[ateb]

Cyfeiriadau[golygu cod]