Sgwrs:Ieithoedd Brythonaidd

Ni chefnogir cynnwys y dudalen mewn ieithoedd eraill.
Oddi ar Wicipedia

Byddai'n dda gweld rhagor o gyfeiriadau at ffynonellau yn yr erthygl hon, a bod ieithyddiaeth gymharol a chyn-hanes yn faterion dadleuol. Byddai hefyd yn dda gweld peth ehangu ar yr adran sy'n disgrifio nodweddion tybiedig yr iaith a'r adran sy'n cymharu hynt ieithoedd teulu'r Frythoneg. Oes awydd ar rywun i fynd ati? Lloffiwr 17:29, 30 Tachwedd 2008 (UTC)[ateb]

Mae'r map yn ddiddorol ond oes unrhyw dystiolaeth i siaradwyr iaith Frythonig yn ymsefydlu yn Sbaen? Hefyd, o dystiolaeth enwau lleoedd yr oedd siaradwyr Cymraeg (neu Gymbrieg) yn ne-ddwyrain yr Alban - Lleuddion a rhannau Swydd Berwick tan yn ddiweddar - 13G yn ardal Pebyll (Peebles) a phlwyf Stow.

Brythoneg[golygu cod]

Rwyf wedi dileu'r frawddeg : "Mae'r enw Brythoneg yn cyfeirio at Frythoniaid brodorol mewn cyferbyniad ag Eingl-Saeson neu Gaels." Nac ydy - y gair am "Frythoniaid brodorol" yw "Brythoniaid".

Mae'r erthygl yma yn dipyn o gawl ar hyn o bryd. Allai rhywun sy'n gwybod mwy am y pwnc na fi gael golwg arni? Rhion 07:26, 5 Rhagfyr 2009 (UTC)[ateb]

O'm deall i, mae "Brythoniaid" yn gallu cyfeirio at y Brythoniaid brodorol o Gymru, ac y Brythoniaid Eingl-Saeson a Gaels, sydd pam gwnes i gynnwys y fraweddeg yn yr erthygl (jyst cyfieithiad o'r Wici Saesneg yw e). Xxglennxx 21:04, 6 Rhagfyr 2009 (UTC)[ateb]
Beth am hyn, "Cymo Celtydd John Rhys a fathodd yr enw Brythoneg o'r gair Cymraeg Brython, sy'n golygu "Brython brodorol" mewn cyferbyniad ag Eingl-Saeson neu Gael." Xxglennxx 21:17, 6 Rhagfyr 2009 (UTC)[ateb]