Sgwrs:Gleider
Pam wahaniaethu?
[golygu cod]Mae'n braf cael yr erthygl hon, ond oes angen gwahaniaethu fel hyn? Os oes, bydd angen tudalen gwahaniaethu - Gleidr (ond fel y gwelwch mae hynny wedi cael ei ailgyfeirio i'r dudalen yma, sy ddim yn gwneud synnwyr o gwbl). Ar ôl edrych ar y dudalen ar Wici S. (Glider) a'r Sgwrs yno (en:Talk:Glider), gwelaf mai'r prif reswm am hynny - ac roedd hynny'n ddadleuol hefyd yn ôl y Sgwrs - oedd er mwyn gwahaniaethu rhwng "Glider (aircraft)" a "Glider (sailplane)". Ond mae ein 'Gleidr (awyren)' ni yn cysylltu gyda'r dudalen 'Glider (sailplane)' (a beth ydy sailplane yn Gymraeg beth bynnag, os ydym ni am wahaniaethu?), nid 'Glider (aircraft)'. Mae ystyron eraill y gair Saesneg glider yn amherthnasol yma a gellid eu rhestru ar dudalennau gwahaniaethu newydd, sef 'Gleidr (gwahaniaethu)' am yr amryw fathau o gleidrau a 'Glider' am y lleill. Anatiomaros (sgwrs) 20:42, 26 Mehefin 2013 (UTC)
- Cytuno, ac hen bryd ei symud. Wedi symud i "gleider", y sillafiad sydd gan Eiriadur Prifysgol Cymru a Geiriadur yr Academi. —Adam (sgwrs • cyfraniadau) 20:59, 15 Mehefin 2017 (UTC)