Sgwrs:Ffwrnais

Ni chefnogir cynnwys y dudalen mewn ieithoedd eraill.
Oddi ar Wicipedia

Chlywais i neb yn dweud ffwrnais am ffwrn neu bopdy. Llywelyn2000 (sgwrs) 19:22, 9 Mawrth 2015 (UTC)[ateb]

Eiliaf hynny. Byddwn i'n dweud bod 'ffwrnais' yn dwyn i gof rhywbeth sy'n llosgi (neu amlosgi, hyd yn oed) yn hytrach na thwymo. Ffwrn ym mhob achos bron dwi wedi'i glywed am hyn o beth, yn ogystal â phopty' weithiau. (Sylw gan Arbennig:Contributions/86.3.131.203)
Cytuno. Dwi wedi ceisio egluro tarddiad y gair yn well gyda chymorth fy hen eiriadur Lladin ffyddlon: "Daw'r enw Cymraeg o'r gair Saesneg furnace sy'n tarddu yn ei dro o'r gair Lladin hynafol fornax (gair sy'n golygu "pobty" neu "ffwrn" yn ogystal â "ffwrnais"; Fornax oedd duwies y pobty ym mytholeg Rhufain Hynafol)." Anatiomaros (sgwrs) 01:08, 10 Mawrth 2015 (UTC)[ateb]