Sgwrs:Fernando Torres

Ni chefnogir cynnwys y dudalen mewn ieithoedd eraill.
Oddi ar Wicipedia

Cyfeiriadau[golygu cod]

Helo, Marcj 93. Dwi wedi dad-wneud eich cyfraniad diweddar oherwydd nid fel hynny y gwnawn y cyfeiriadau. Mae nodyn penodol er mwyn nôl y cyfeiriadau a ffynonellau o'r erthygl ei hun, sef {{Cyfeiriadau}}. Wi ddim yn siŵr sut i ddatrys y peth yma nawr, felly gofynnaf am gymorth gweddill y cyfranwyr yn Y Caffi. -- Xxglennxx (sgw.cyf.) 15:49, 15 Medi 2010 (UTC)[ateb]

Yr hyn a awgrymaf i yw dod o hyd i'r cyfeiriadau a ffynonellau o'r fersiwn Saesneg, ac eu hychwanegu nhw yn y lle cywir yma, ond gall hyn gymryd peth amser i'w wneud .... -- Xxglennxx (sgw.cyf.) 15:53, 15 Medi 2010 (UTC)[ateb]
Mae Glenn yn iawn, Marcj 93. Dydy pentwr o gyfeiriadau gwe fel hynny yn profi dim. Yn y testun y dylen nhw fod. Mae'n llai trafferhus o lawer i'w rhoi nhw i mewn yn y lle cyntaf, wrth addasu/gyfieithu'r testun; os ydy hynny'n waith diflas, fel mae'n gallu bod, cofia does dim angen cynnwys popeth sydd yn yr erthygl Saesneg, yn enwedig os ydyw'n ymylol neu'n debyg o gael ei newid. Gwell dewis ac addasu! Anatiomaros 16:06, 15 Medi 2010 (UTC)[ateb]