Sgwrs:FIDE

Ni chefnogir cynnwys y dudalen mewn ieithoedd eraill.
Oddi ar Wicipedia

Mi fedri naill ai ei gynnwys fel dolen allanol ar y gwaelod neu fel cyfeiriad arferol sy'n agor a chau gyda <ref> a chau ref </ref> . Mae na sawl dull o roi gwybodaeth oddi fewn i'r reffs yma: y cymhleth a'r syml. Y dull symlaf mae'r rhan fwyaf ohonom yn ei ddefnyddio: URL, enw'r wefan a pha bryd y cafodd ei gweld (neu ei galw). ee Ar ddiwedd y frawddeg a osodaist, ychwanega'r cyfeiriad:

Côd gwlad rhyngwladol FIDE ar gyfer Cymru yw WLS.[1]

Er mwyn gweld y côd: agor y ffenest olygu. Fe sylwi di hefyd fod y [...] yn lleihau'r URL.

Dwn i ddim os ydy hyn yn clirio'r dyfroedd neu'n eu cymylu! O ia, mae na ddull hawdd o arwyddo, wedi i ti adael cwestiwn ar dudalen sgwrs - 4 'tilde' / sgwigl (Llywelyn2000 (sgwrs) 06:18, 26 Chwefror 2015 (UTC)) mewn rhes - a mi wneith y feddalwedd ychwanegu dy enw a'r dyddiad ayb. Llywelyn2000 (sgwrs) 06:18, 26 Chwefror 2015 (UTC)[ateb]

  1. Gwefan FIDE; adalwyd 26 Chwefror 2015