Sgwrs:Diffyg ar yr haul

Ni chefnogir cynnwys y dudalen mewn ieithoedd eraill.
Oddi ar Wicipedia

Arguddiad[golygu cod]

Rwy' wedi gweld defnydd "Arguddiad" am "Eclipse" ac hefyd "Arguddiad yr Haul" yn lle "Diffyg ar yr Haul". Mae'r gair dros 200 mlynedd o oedran yn ôl Geiriadur Prifysgol Cymru, er mae'n debyg "occultation" yw'r cyfieithiad uniongyrchol. Oes unrhywun gydag unrhyw wybodaeth am y gair 'Arguddiad'? Os mae'n air mewn defnydd cyfoes fel mae'n ymddangos, fuasai'n dda i'w ychwanegu at yr erthygl. --Huwbwici (sgwrs) 19:45, 11 Mai 2015 (UTC)[ateb]

Dw i wedi'i ychwanegu, gan ei fod yn gymharol hen -ac ar dy gais. Chlywais mohono'n air byw, ar lafar nac yn cael ei ddefnyddio'n naturiol, fodd bynnag - yn wahanol felly i 'diffyg', sy'n gwbwl fyw, ac yn llawer hŷn. Y drefn yn Saesneg ydy defnyddio'r UN gair safonol, ac mae hyn yn rhoi cryfder i'r iaith. Mae Cymdeithas Edward Llwyd yn gwneud hyn yn ddiweddar, a ac yn fy marn i, dyna ddylem ni ei wneud, gan nad geiriadur llawn o hen eiriau marw mo Wici. Llywelyn2000 (sgwrs) 04:01, 12 Mai 2015 (UTC)[ateb]
Cytuno. Mae'r gair yn gyfoes ac i'w weld ar Trydar, er enghraifft (ond llai o ddefnydd na "Diffyg yr Haul"). Astudiais ffiseg trwy'r Saesneg ond "Arguddiad" oedd y term Cymraeg glywais i gyntaf a dim ond gyda'r 'diffyg' ddiweddar ddysgais am "Diffyg yr Haul", felly hwnnw yw'r term anarferol i fi! Yn dechnegol mae "Diffyg yr Haul" yn fersiwn arbennig o "Arguddiad" (fel yn Saesneg mae "Solar Eclipse" yn fersiwn arbennig o "Occultation"), ac efallai mae'n werth creu tudalen "Arguddiad" (fel sydd yn y Saesneg) i eglurhau pethau ond bydd rhaid i fi adolygu fy ffiseg cyn meddwl gwneud y fath beth! Diolch am y newid. --Huwbwici (sgwrs) 20:40, 13 Mai 2015 (UTC)[ateb]
Difyr iawn. Chlywais i erioed mo'r term 'arguddiad' cyn rwan, dwi'n cyfadde, ond wedyn doedd 'na ddim gwersi gwyddoniaeth yn Gymraeg pan oeddwn i yn yr ysgol (ac dwi ddim yn sôn am Oes Fictoria!). Yn ôl GPC, ystyr yr enw gwrywaidd 'arguddiad' yw "Gorchuddiad, ymguddiad; covering, occultation", ac rydym ni'n ddyledus i'r hen Wm. Pughe amdano (ei Welsh and English Dictionary [drwg]enwog, 1793). Mae'r term 'diffyg (ar yr haul ayyb)' ar y llaw arall yn hen iawn gyda'r cofnod cyntaf o 'diffyg ar y lleuad' i'w gael yn Llyfr Coch Hergest (tua 1400 ond mae'r testun yn gynharach eto). Mae'r term yn gyffredin ar lafar ac mewn print o hyd felly 'diffyg' amdani, yn fy marn i, er y dylem nodi'r defnydd o 'arguddiad' hefyd. Anatiomaros (sgwrs) 23:12, 13 Mai 2015 (UTC)[ateb]