Sgwrs:Darlithoedd Radio BBC Cymru

Ni chefnogir cynnwys y dudalen mewn ieithoedd eraill.
Oddi ar Wicipedia

Diolch am yr ychwanegiadau. Dw i wedi symud y rhan fwyaf o ddolenni i'r golofn Nodiadau. Tynged yr Iaith yw'r unig dolen yn y colofn Teitl achos mae tudalen Wicipedia am y ddarlith. Mae'r gweddill yn y nodiadau. --Oergell (sgwrs) 19:33, 27 Awst 2012 (UTC)[ateb]

Iolo Morganwg yw'r sillafiad safonol ond mae'r llyfryn BBC yn defnyddio'r sillafiad Iolo Morgannwg ar gyfer y ddarlith fel dw i wedi ei gadw! --Oergell (sgwrs) 19:36, 27 Awst 2012 (UTC)[ateb]

Darlledwyd gan bwy?[golygu cod]

Byddai'n dda cael gywbod ar pa orsaf(oedd) y darlledwyd, gan i Radio Cymru ond dod i fodolaeth yn 1977 a Radio Wales ddod i fodlaeth yn 1978. Yn ôl erthygl BBC Radio Wales:

Dechreuodd ddarlledu ar draws Cymru ar 12 Tachwedd 1978, ar ôl i Radio 4 Wales (y Welsh Home Service gynt) gau wrth i BBC Radio 4 droi'n rhwydwaith genedlaethol gan symud o'r donfedd ganol i'r donfedd hir.

Dwi'n cymryd yn ganiataol mai ar Welsh Home Service/Radio 4 Wales y darlledwyd ar y dechrau, ond o 1977/78 ymlaen, a oedd y darlithoedd yn cael eu darlledu ar Radio Cymru a Radio Wales, neu y rhai Cymraeg ar RC a'r rhai Saesneg ar RW sgwn i?--92.245.247.100 09:02, 28 Awst 2012 (UTC)[ateb]