Sgwrs:Cymbrieg

Ni chefnogir cynnwys y dudalen mewn ieithoedd eraill.
Oddi ar Wicipedia

Ambell gwsetiwn[golygu cod]

Mae angen tacluso a chywiro'r iaith y fama ee pa un sy'n gywir Cymbrieg neu Cymrieg; angen cysondeb. Llywelyn2000 15:18, 27 Rhagfyr 2008 (UTC)[ateb]

'Cymbreg' yw'r enw a geir yn y Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru yn yr erthygl ar yr Hen Ogledd. "Tafodiaith Frythonig debyg i'r Gymraeg" yw'r diffiniad yno a dyna yw barn y mwyafrif o ysgolheigion hefyd, hyd y gwelaf. Mae'n bwnc dadleuol iawn a ddatblygodd y Gymbreg yn iaith ar wahân neu beidio (hoffwn i weld y dystiolaeth sy'n sail i'r honiad iddi oroesi hyd y 12fed/13eg ganrif hefyd). Anatiomaros 21:47, 27 Rhagfyr 2008 (UTC)[ateb]
Dwi wedi ceisio cymhenu'r erthygl ond mae 'na bethau digon dadleuol yn cael eu dweud heb dystiolaeth gadarn i'w profi. A beth am yr enw ei hun? Enw gwneud ydy hi, o "Cumbria/Cymbria", ond y rheol gyffredinol yw bod yr "i" yn diflannu, cf. Rwsia-Rwseg, Estonia-Estoneg ayyb. Anatiomaros 20:08, 13 Ionawr 2009 (UTC)[ateb]
ON Cewch awgrym o'r anghytuno ac ymgecru o edrych ar dudalen Sgwrs yr ethygl ar "en": mae'n rhyfel golygyddol parhaus yno! Anatiomaros 20:10, 13 Ionawr 2009 (UTC)[ateb]
Y peth od ydy fod rhai ardaloedd yn ne Cymru e.e. Llanelli yn ynganu'r gair am Gymraeg gyda bron yr union yr un ynganiad â'r sillafiad uchod: "Cymbreg" neu "Cwmbreg"; a dyna mae fy nain yn ei ddweud. Fe greda i hefyd i lawer o'r hen Gymru a oedd yn Rheged wedi cael eu hintigreiddio'n rhan o'r gymuned ddiweddarach, bresennol. Mae nhw yno o hyd! Llywelyn2000 22:26, 13 Ionawr 2009 (UTC)[ateb]
Diddorol. Fel Cwmrâg hefyd? Cyn belled ag mae pobl Cumbria yn y cwestiwn mae hynny'n ddigon posibl, ond mae'r dystiolaeth ieithyddol am Gymbreg yn ddadleuol iawn, a deud y lleia, dyna fy mhwynt - mae angen llawer o "ond" ac "os cywir hynny" ayyb a chyfeiriadau dibynadwy. Anatiomaros 22:31, 13 Ionawr 2009 (UTC)[ateb]

Oes angen tudalen ar wahân ar gyfer Cumbric Revival fel sydd ar gael yn Saesneg? gan 84.68.53.142 am 00:30, 2 Mehefin 2009.

Baswn i'n deud mai'r peth caredicaf fusai rhoi yr holl wybodaeth am Cwmbraic ar dudalen arall. Mae'n bodoli fel hobi ond does dim tystiolaeth hanesyddol iddi. ~~
Diolch gyfaill; diddorol iawn. Sgwn i a fyddan nhw'n dechrau amgyrch i gael arwyddion dwyieithog drwy Loegr? Peintio'r byd yn las! Beth am fynd ati i grynhoi erthygl fechan ar yr adfywiad? A dolen iddi o'r brif erthygl. Cychwyna drwy gofrestru. Os cei drafferth, gofyna gwestiwn ar fy nhudalen defnyddiwr i. Llywelyn2000 04:37, 2 Mehefin 2009 (UTC)[ateb]

Dolen wallus[golygu cod]

Gwirwyd y ddolen sawl tro ac fe'i cafwyd yn wallus. Trwsiwch neu ddilewch hi os gwelwch yn dda.

--Hazard-Bot (sgwrs) 04:37, 2 Mehefin 2012 (UTC)[ateb]

Dolen wallus 2[golygu cod]

Gwirwyd y ddolen sawl tro ac fe'i cafwyd yn wallus. Trwsiwch neu ddilewch hi os gwelwch yn dda.

--Hazard-Bot (sgwrs) 04:38, 2 Mehefin 2012 (UTC)[ateb]