Sgwrs:Cylch Cerrig Bryn Ceri

Ni chefnogir cynnwys y dudalen mewn ieithoedd eraill.
Oddi ar Wicipedia

Yr enw Saesneg[golygu cod]

Dwi'n cynnig symud hyn i 'Cylch cerrig Bryn Ceri'. Does gen i ddim map o'r ardal a'r enw Saesneg a geir yn llyfr Helen Burnham (gw. yr erthygl), ond mae'n well na Kerry Hill 'tydi? Anatiomaros 17:40, 8 Hydref 2010 (UTC)[ateb]

Gyda llaw, ceir nifer o luniau o Fryn(iau) Ceri ar Gomin[1] ond dim un o'r heneb hon - siomedig! Anatiomaros 17:44, 8 Hydref 2010 (UTC)[ateb]

Awe! Y tristwch ydy fod yr holl wybodaeth wedi dod o fas-data swyddogol CADW (sydd wedi'i ryddhau i'r cyhoedd (gweler y ffynhonnell) - ynghyd a'r cangymeriadau hyn! Dwi'n eu cyfieithu wrth fynd ymlaen, ond mae llawer yn dianc drwy fy mysedd e.e. ceffig yn lle cerrig! Chwip din iawn i CADW. Un pwynt arall; mae'r wybodaeth hon yn rhan o SAM. Felly, os dyma eu diffiniad nhw o deitlau neu label swyddogol rhaid i ni ei dderbyn. Os ydyn nhw'n diffinio un o'r safleoedd fel "cylch cerrig" yna, dw i'n meddwl fod yn rhaid i ni dderbyn hynny'n ddiddadl - er nad oes llawer o gerrig yno, neu nad yw'r cylch yn gylch! Dyma ydy'r safon eithaf (ysywaeth!) yn y maes hwn a fiw i ni ail-sgwennu'r llawlyfrau (ar wahan i gangymeriadau ganddynt). Llywelyn2000 19:11, 8 Hydref 2010 (UTC)[ateb]

Ia, mae'n nodweddiadol o waith Cadw, dwi'n meddwl - yn amlwg dydy cadwriaeth yr iaith Gymraeg ddim yn uchel ar eu rhestr o flaenoriaethau!
At ba safle wyt ti'n cyfeirio, gyda llaw? Methu deall. Cerrig Arthur efallai? Anatiomaros 19:34, 8 Hydref 2010 (UTC)[ateb]
ON Beth am symud hyn felly? Iawn gen ti? Anatiomaros 19:34, 8 Hydref 2010 (UTC)[ateb]
OON Oes gen ti farn am hyn? Anatiomaros 19:53, 8 Hydref 2010 (UTC)[ateb]
Son yn gyffredinol, gyfaill, jest rhag ofn i rywun newid y teitl swyddogol. Am Gylch cerrig Cefn Maen Amor fe ddywedaist neithiwr: Fe'i nodir fel carnedd yn hytrach na chylch cerrig ar y map OS, a byddai salach dyn wedi newid yr enw i Carnedd Cefn Maen Amor yn hytrach na diffiniad swyddogol CADW.
Iawn, dwi'n deall rwan. 'Mond nodi'r ffaith wrth fynd heibio oeddwn i - ni ellir dibynnu ar yr OS bob tro chwaith, fel y gwyddom yn achos enwau 'Symru', ysywaeth. Anatiomaros 21:30, 8 Hydref 2010 (UTC)[ateb]
Atebais Sgwrs:Cerrig Caerau ar y dudalen honno; ti bia'r dewis. Chwaneg ar dy dudalen di mewn chwinc.
Cadwraeth iaith! Mi chwerddais LOL! Cytuno'n llwyr. Llywelyn2000 20:22, 8 Hydref 2010 (UTC)[ateb]
Hollol! Wna i symud hyn i 'cylch cerrig Bryn Ceri' felly. Anatiomaros 21:30, 8 Hydref 2010 (UTC)[ateb]