Sgwrs:Cyfunrywioldeb

Ni chefnogir cynnwys y dudalen mewn ieithoedd eraill.
Oddi ar Wicipedia

Cyfraith Hywel?[golygu cod]

Yn ôl yr erthygl, "Term Cymraeg llawer hŷn yw gwrywgydiaeth, sy'n dyddio o Gyfraith Hywel Dda yn y 10fed ganrif a chafodd ei ddefnyddio gan yr Esgob William Morgan ym Meibl Cymraeg 1588." Mae'r ail ran yn wir, ond does dim cofnod o enghraifft gynharaf na'r TN yn Geiriadur Prifysgol Cymru a dydy o ddim i'w gweld yn y mynegeion i'r dri destun o Gyfraith Hywel sydd ar fy silffoedd. Dwi'n meddwl fod hyn yn amheus iawn felly ac mai W.M. a fathodd y gair. Os na cheir ffynhonnell ddibynadwy mewn wythnos dwi am guddio rhan gyntaf y frawddeg. Anatiomaros 21:40, 28 Mehefin 2010 (UTC)[ateb]

Bron i dair mlynedd ers i mi wylio'r rhaglen ddogfen Fel Arall ar S4C, ac yna fe glywais bod "gwrywgydiaeth" yn dyddio o Gyfraith Hywel ac yn ymddangos ym Meibl 1588 (John Davies oedd yn dweud hyn ar y rhaglen gyda llaw). Mae'n bosib fe wnes i gamddeall beth oedd hanesydd ein cenedl yn dweud (efallai bod y gair yn dyddio yn ôl i gyfnod Hywel Dda, neu bod cofnodion o wrywgydiaeth (heb air Cymraeg) yng Nghymru o'r cyfnod?), ac os nad yw'r gair yn ymddangos yng Nghyfraith Hywel yna mae'n amlwg bod y gosodiad yn anghywir! Byddai'n mynd ati i'w ddileu nawr felly. (Ond dwi'n sicr dywedodd y boi rhywbeth am Hywel Dda . . . ) —Adam (sgwrscyfraniadau) 23:41, 29 Mehefin 2010 (UTC)[ateb]