Sgwrs:Crug crwn Mynydd Pysgodlyn

Ni chefnogir cynnwys y dudalen mewn ieithoedd eraill.
Oddi ar Wicipedia

Angen diwygio hyn "Crug crwn a godwyd gan bobl Oes Newydd y Cerrig ac Oes yr Efydd" achos dim ond un waith y cafodd ei godi, mae'n debyg :-)

Dyna'r broblem gyda thempladau. Dwi'n awgrymu newid o i "Crug crwn a godwyd gan bobl Oes Newydd y Cerrig neu Oes yr Efydd". Hawdd diwygio hynny eto pan gawn wybodaeth bellach (os cawn hefyd!). Anatiomaros 22:36, 4 Tachwedd 2010 (UTC)[ateb]

Sôn am wybodaeth bellach, dydy Penlle'r Pebyll ddim yn grug crwn (gw. [1]) beth bynnag. Anatiomaros 22:39, 4 Tachwedd 2010 (UTC)[ateb]
Syniad da. Dw i wedi'i newid i "neu". Yr ail bwynt: MAE'r sale'n cael ei nodi fel cryg crwn gan CADW. Ac os ddarlleni di deitl y wybodaeth sydd gan Coflein, dyma eu disgrifiad yma: MYNYDD PYSGODLYN ROUND BARROW; PENLLE'R BEBYLL RINGWORK. Round barrow (carn crwn) yw eu teitl am safle Penlle'r Pebyll. Llywelyn2000 22:48, 4 Tachwedd 2010 (UTC)[ateb]
Wel ia, ond mae hynny'n disgrifio - a hynny'n ddryslyd - dwy heneb, sef "MYNYDD PYSGODLYN ROUND BARROW a PENLLE'R BEBYLL RINGWORK". Ringwork (math o amddiffynfa) ydy Penlle'r Bebyll. Mynydd Pysgodlyn ydy'r cryg crwn (round barrow). Yn ôl Cadw, o leia. Ydy'r crug o fewn y "gorlan" tybed? A be gawn ni felly fel enw'r erthygl (os ydynt ar yr un safle does dim angen dwy erthygl)? Anatiomaros 22:59, 4 Tachwedd 2010 (UTC)[ateb]
Manylion... Cawn addasu'r testun yn nes ymlaen (Cadw: "A croughly 17m diameter embanked, circular enclosure [='Penlle'r Bebyll'?], having a subrectagular banked feature [='Mynydd Pysgodlyn'?], 7.6m north-south by 4.6m, set athwart its circuit on the south. Possibly an earlier monument adapted as settlement enclosure."). Ymlaen! Anatiomaros 23:03, 4 Tachwedd 2010 (UTC)[ateb]
Rwyt ti'n iawn - y diafol yn y manylion! Dw i wedi newid y teitl. Ia ymlaen, chydig heno, gweddill dros y penwythnos. Llywelyn2000 23:19, 4 Tachwedd 2010 (UTC)[ateb]
Dim problem, gyfaill. Rhown y bai i gyd ar Cadw am ddisgrifio'r ddwy heneb gyda'i gilydd heb esbonio dim yn iawn (a hynny'n uniaith Saesneg, wrth gwrs!). A'n helpo ni! Anatiomaros 23:30, 4 Tachwedd 2010 (UTC)[ateb]
A'n gwaredo ni! Llywelyn2000 23:31, 4 Tachwedd 2010 (UTC)[ateb]
Cadwer ni rhag Cadw! Anatiomaros 23:32, 4 Tachwedd 2010 (UTC)[ateb]