Sgwrs:Clwstwr cytiau Dyffryn Cennen

Ni chefnogir cynnwys y dudalen mewn ieithoedd eraill.
Oddi ar Wicipedia

Dydy hyn ddim yn gwneud unrhyw synnwyr. Ai camgymeriad teipio wrth daro'r rhain allan - anghofio rhoi enw'r lle ar ôl 'Clwstwr cytiau'? Mae wedi cael ei dewis gan Deb fel Erthygl newydd ac felly i'w gweld ar yr Hafan. Dwi am ei thynnu o'r rhestr a rhoi un o'r lleill yn ei lle nes bod hyn yn cael ei ddatrys. Os erthygl am yr henebion yn gyffredinol ydy o oni fyddai'n well naill ai ei hailgyfeirio i Cytiau'r Gwyddelod neu newid enw'r erthygl honno? Sdim angen dwy erthygl am yr un peth. Mae'n ddryslyd ar y naw fel y mae, beth bynnag, rhaid cyfadde!

Dwi yma'n hwyr heno, felly does gen i ddim amser i wneud llawer mwy. Bydd gen i fwy o amser nos fory, gobeithio. Anatiomaros 00:34, 22 Tachwedd 2010 (UTC)[ateb]