Sgwrs:Byddin Weriniaethol Dros Dro Iwerddon

Ni chefnogir cynnwys y dudalen mewn ieithoedd eraill.
Oddi ar Wicipedia

Yr "IRA Ddarpariaethol" oedd term y BBC am ddegawdau; mae'r cyfieithiad hwn yn anghywir yn ôl Geiriadur Bruce. Ond dyma mae pawb yn ei ddefnyddio a'i ddeall, bellach. Mae "Byddin Weriniaethol Dros Dro Iwerddon" i mi yn ormod o lond ceg ac yn anghywir hefyd. I'w gywiro, mae'n mynd yn fwy o lond ceg: "Byddin Gweriniaethol Iwerddon: Dros Dro". Sylwer mai enw genidol ydy 'Gweriniaethol' yma ac nid ansoddair, felly does dim angen ei dreiglo. Bron na faswn i'n dadlau dros ddefnyddio term y Provos eu hunain, sef yr "IRA" a "Dros Dro" neu "Answyddogol" yn dilyn hynny. Be ddywedwch gyfeillion? Llywelyn2000 20:22, 28 Medi 2008 (UTC)[ateb]

Peth arall... mae rhaid bod rhagor yn yr erthygl am eu gweithredoedd paramilitaraidd. Dim swn yn yr erthygl am eu bod wedi achosi marwolaethau bron dwy fil o bobl. Dyma ystadegau (ar y wici saesneg). Alan 21:19, 28 Medi 2008 (UTC)[ateb]
Ynglŷn â'r pwynt cyntaf, mae'n gwestiwn dyrys ond dwi'n meddwl fod yr enw "Byddin Weriniaethol Iwerddon" (am yr IRA) yn iawn yn y lle cyntaf (gw. hyn gan S4C, er enghraifft). Anoddach ydy penderfynu'r ffurf gywir i gynrychioli provisional yn yr ystyr yma. Dwi'n methu cael dim byd ar y we am "IRA Darpariaethol/Ddarpariaethol", er bod yr enw yn gwneud synnwyr - "y Profos" byddai'r enw ar lafar gan y rhan fwyaf o ni, mae'n debyg, ond wneiff hynny mo'r tro yma. Oes gan rywun ffynhonnell am Gymreigiad o'r enw? Cytunaf fod yr enw presennol yn ormod o lond ceg, ond yr unig welliant - os gwelliant hefyd! - ydy "Byddin Weriniaethol Ddarpariaethol Iwerddon", sy'n waeth byth!
Am yr ail bwynt, mae'n siwr mai eginyn ydy'r erthygl (siwr bod 'na erthygl hir a nifer o is-ethyglau ar "en", wrth gwrs) ac mae 'na le iddi dyfu felly, ond 'does? Anatiomaros 21:37, 28 Medi 2008 (UTC)[ateb]


Diddorol yw sylwi mai 'Byddin Rhyddid Iwerddon' [[1]] mae Lyn Ebenezer yn ei ddefnyddio yn ei lyfr ar sefydlu'r fyddin yng Ngwersyll Fron-goch. Ond mae hwn yn enw anghywir o ran cyfieithiad. Efallai mai'r ateb syml, annelwig, amlwg ydy gwneud yr enw Saesneg yn deitl: Provisional IRA. Llywelyn2000 02:40, 3 Hydref 2008 (UTC)[ateb]