Sgwrs:Brymbo

Ni chefnogir cynnwys y dudalen mewn ieithoedd eraill.
Oddi ar Wicipedia

Eglwys-bach?[golygu cod]

Dywedir ceir Brymbo arall "ger Eglwys-bach, Sir Ddinbych". Ble mae "Eglwys-bach, Sir Ddinbych"? Ai "Eglwys-bach, yn yr hen Sir Ddinbych" - h.y. Eglwysbach, Sir Conwy - a olygir? Dwi'n methu cael hyd i unrhyw "Eglwys[-]bach" yn Sir Ddinbych. Anatiomaros 21:35, 6 Hydref 2010 (UTC)[ateb]

Ia, llond dwrn o dai ar gwr Eglwysbach yn Nyffryn Conwy yw'r Brymbo hwn, mae'n siwr gen i. Wedi newid y testun. Cywiriwch fi os dwi'n camgymeryd. Anatiomaros 21:45, 6 Hydref 2010 (UTC)[ateb]
Dwn i ddim! Dyfynnu o'r Dictionary of Place-names of Wales wnes i; tudalen 51: "(as in brymbo near Eglwys-bach, Denb and Cwm Baw near Llanllugan, Mont)" Paid saethu'r negesydd! Llywelyn2000 21:48, 6 Hydref 2010 (UTC)[ateb]
Baswn i ddim yn mynnu dy saethu ar unrhyw gyfri, gyfaill! Mae'r bai i gyd ar awduron ein cyfeirlyfrau sy'n mynnu defnyddio'r cyn-siroedd "hanesyddol" bondigrybwyll yn lle'r rhai sy'n bod heddiw. Anatiomaros 21:51, 6 Hydref 2010 (UTC)[ateb]