Sgwrs:Brodyr a chwiorydd

Ni chefnogir cynnwys y dudalen mewn ieithoedd eraill.
Oddi ar Wicipedia

Teitl yr erthygl[golygu cod]

Cynnig newid y teitl (a symud y dudalen) i Brodyr a Chwiorydd. Mae'n swnio'n fwy naturiol o lawer, a gyda llaw dyma wnaeth y Ffrancwyr gydag erthygl tebyg ([1]). Y broblem efo Sibling ydy ei fod yn gair benthyg sydd ddim yn cael ei ddefnyddio rhyw lawer - mae google yn rhoi 62,30 canlyniad am "brodyr a chwiorydd", ond dim ond 241 am "siblingiaid". A bod yn onest dwi'n meddwl mai dim ond mewn cyfieithiadau llythrennol, sâl, o'r Saesneg mae'n cael ei ddefnyddio. Yn y pendraw, beth am greu erthygl tebyg i hon [2] sy'n rhestru'r gwahanol fathau o berthnasau, er mwyn cael un erthygl hir (defnyddiol gobeithio) yn hytrach na llawer o rhai bychain, a chael geiriau fel Mam, Mab, Chwegr ac ati'n ail-gyfeirio ato? --Llygad Ebrill 20:12, 28 Chwefror 2010 (UTC)[ateb]

Ia, roeddwn i'n methu meddwl am air Cymraeg am sibling chwaith. Ac mae "siblingiaid" yn waeth byth. Cytunaf y dylem symud hyn i Brodyr a chwiorydd (neu Chwiorydd a brodyr hyd yn oed?!). Anatiomaros 20:20, 28 Chwefror 2010 (UTC)[ateb]
Ie, does dim problem gen i gyda hynny. Cyfieithad GyA ddefnyddiais i, ond dw i'n cytuno fod Brodyr a Chwiorydd yn deitl mwy addas. Pwyll 15:37, 14 Mawrth 2010 (UTC)[ateb]
Wedi symud i brodyr a chwiorydd – hen bryd! —Adam (sgwrscyfraniadau) 14:39, 5 Mehefin 2013 (UTC)[ateb]