Sgwrs:Beddrodau Hafren-Cotswold

Ni chefnogir cynnwys y dudalen mewn ieithoedd eraill.
Oddi ar Wicipedia


Untitled[golygu cod]

Mr Sais: Sylwa mai math arbennig o siambr gladdu ydy Beddrodau Hafren-Cotswold. Dydy hynny ddim yn golygu mai cyfeirio at y Cotswolds mae'r linell "rhannau cyfagos o dde-orllewin Lloegr", eithr cyfeirio at y beddrodau sydd yn ne-orllewin LLOEGR y mae. Mae'r frawddeg yn gywir.

Iawn. Ond yn yr achos hwnnw, nid yw Waylands Smithy (tua 60 milltir oddiwrth Gymru) yn enghraifft dda iawn ohonynt. Fe dynnaf i'r llun felly. Rwy newydd sylweddoli hefyd bod yr ail lun hefyd, sef Capel Garmon, allan o'r ardal sy'n cael ei disgrifio. Fe dynnaf i hwnnw hefyd. Os yw'r siambrau'n cael eu lleoli yn bennaf yn Ne-Ddwyrain Cymru a rhannau De-Orllewin Lloegr sy'n cyfagos ati, dylai fod yn hawdd i ddod o hyd i enghreifftiau o'r ardal honno. Llais Sais 16:10, 30 Medi 2010 (UTC)[ateb]