Sgwrs:Awdl

Ni chefnogir cynnwys y dudalen mewn ieithoedd eraill.
Oddi ar Wicipedia

Awdlau'r Byd[golygu cod]

Mae hon yn erthygl dda ond dim ond rhan o'r gwir yw dweud "Cerdd gaeth sy'n defnyddio mwy nag un o'r pedwar mesur ar hugain traddodiadol yw awdl". Pam? Achos fod yr 'awdl' (ode) yn ffurf lenyddol a geir mewn sawl traddodiad llenyddol, o Roeg yr Henfyd i Tsieina. Yn y cyd-destun hwnnw, dim ond rhan fach o'r hanes yw'r awdl Gymraeg, er pwysiced yw. Anatiomaros 15:40, 27 Awst 2010 (UTC)[ateb]

Diolch i ti am dy sylwadau. Efallai bod angen teitl mwy penodol a thudalen wahaniaethu, fel Awdl (Llenyddiaeth Gymraeg), ac efallai erthygl arall yn amlinellu arwyddocâd awdlau mewn gwahanol draddodiadau barddol. Y cwestiwn mawr yw i ba raddau y mae awdl fel y gwyddom amdani heddiw yn gyfystyr ag ode, gan fod y gynghanedd yn endid Cymreig, sy'n gwneud yr "awdl" (cerdd gaeth ar fwy nag un mesur) yn ddiffiniad cwbl unigryw nad yw'n cael ei gyfleu gan ode. Eisingrug 16:43, 27 Awst 2010 (UTC)[ateb]
Dwi'n meddwl dylai hyn aros fel y brif erthygl gyda adran ynddi am awdl y traddodiad barddol Cymraeg ac erthygl lawn am honno ar dudalen arall (Awdl (mesur caeth), Awdl (barddoniaeth Gymraeg) efallai?). 'Awdl' yw'r unig derm Cymraeg am ode a cheir sawl math o awdl mewn traddodiadau eraill - e.e. barddoniaeth Roeg (Pindar), Ffrangeg - ac felly yr ystyr ehangaf sy'n cael y flaenoriaeth mewn gwyddoniadur cynhwysfawr fel y Wici. Fel rwyt ti'n deud, mae'r awdl Gymraeg yn unigryw ac yn haeddu erthygl iddi ei hun, wrth gwrs (hefyd, yn gam neu'n gymwys, ode yw'r cyfieithiad S. arferol am awdl). Anatiomaros 17:21, 27 Awst 2010 (UTC)[ateb]
Dwi'n credu mai Awdl (barddoniaeth Gymraeg) sydd orau. Trueni nad oes modd gwahaniaethu rhwng y ffurfiau. Diolch i ti am fy ngoleuo! Eisingrug 17:36, 27 Awst 2010 (UTC)[ateb]
Ia, gan fod awdl eisteddfodol yn cynnwys mwy nag un mesur... Fel 'na mae hi gyda'r angen i wahaniaethu weithiau - pe bai'r Wici yn ymwneud â Chymru yn unig ni fyddai'n broblem, wrth gwrs, ond wedyn gogoniant Wicipedia ydy'r ffaith ein bod yn ceisio cynnwys "pawb a phopeth". Anatiomaros 17:42, 27 Awst 2010 (UTC)[ateb]

Mi gytuna i gydag Eisingrug yn fama; awdl ydy awdl, ac mae hi'n gyfangwbwl Gymreig. "Cerdd hir" ydy "ode" i mi, nid "awdl". Llywelyn2000 20:29, 27 Awst 2010 (UTC)[ateb]

Prif ystyr 'awdl' i'r rhai ohonom sy'n ymddiddori mewn llenyddiaeth Gymraeg ydy'r 'awdl' Gymraeg, wrth gwrs, ond y gair Cymraeg am ode yw 'awdl' er hynny. Disgrifiad neu ddiffiniad yw "cerdd hir", sydd yr un mor wir am yr awdl Gymraeg a'r awdlau estron fel ei gilydd. Anatiomaros 20:43, 27 Awst 2010 (UTC)[ateb]
Mae Geiriadur yr Academi yn cynnig cyfeithiadau amgen o ode. Credaf mai'r peth gorau fyddai cynnig dolen i erthygl sy'n ymdrin ag awdlau mewn diwylliannau eraill, a chadw teitl yr erthygl hon fel y mae. Eisingrug 21:08, 27 Awst 2010 (UTC)[ateb]
Cytuno. Llywelyn2000 21:12, 27 Awst 2010 (UTC)[ateb]
Iawn felly. "Awdl (Gymraeg) ydy awdl" i fi hefyd ond mae angen gair Cymraeg am ode. 'Awdl' yw'r cyfieithiad o ode dwi wedi arfer erioed (cf. 'Awdl' = Saesneg ode mewn geiriaduron Cymraeg-Saesneg hefyd). Fy mhwynt i oedd fod angen gwahaniaethu. Os oes term amgen defnyddier hynny a chael dolen iddo o'r erthygl hon (Awdl, heb ei symud). Be sy gan Geiriadur yr Academi i'w gynnig, felly? Cofier mai diffiniad (rhannol) yn unig yw 'cerdd hir' (dydy pob 'cerdd hir' ddim yn 'awdl'/ode, wrth reswm, a gall awdl/ode fod yn gerdd fer hefyd; felly nid yw 'cerdd hir' yn ddigon da fel cyfieithiad o ode). Anatiomaros 21:32, 27 Awst 2010 (UTC)[ateb]
Eisingrug, hoffwn yn fawr clywed cynigion Bruce a Dafydd am ode. Yn y cyfamser nodaf y diffiniad/cyfieithiad o ode yn y geiriaduron sydd wrth law: "Awdl, cerdd, pryddest" (Spurrell's); "Awdl, cân fer, telyneg" (Y Geiriadur Mawr); "Awdl, cân i'w chanu gyda thant" (Richards); "Awdl, odl" (English to Welsh Lexicon). Hefyd, dan 'awdl' yn Geiriadur Prifysgol Cymru: "Song, poem, ode, stanza". Dwi'n deall y teimlad dros beidio symud hyn, ond rhaid cael erthygl am yr 'awdl' yn gyffredinol hefyd. Be gawn ni felly os cadwn hyn fel y mae? Mae 'Awdl (ode)' yn swnio'n wirion ac os dewisem 'Ode' byddem yn defnyddio enw Saesneg yn lle un Cymraeg. Unrhyw gynigion? Anatiomaros 16:09, 28 Awst 2010 (UTC)[ateb]
Cynigion y Bruce yw "awdl, cerdd, odlig, awdl (in free metre), pryddest". Mae'n biti nad oes gennym well gair i wahaniaethu. Fy awgrym yw erthygl am draddodiadau barddol eraill gyda dolen eglur ar frig y dudalen bresennol, ond dwi ddim yn meindio. O'r uchod, pryddest yw fy hoff air i am ganu hir, digynghanedd, ond 'does gen i fawr o wybodaeth am awdlau y tu hwnt i Gymru. Eisingrug 17:52, 28 Awst 2010 (UTC)[ateb]