Sgwrs:Augur

Ni chefnogir cynnwys y dudalen mewn ieithoedd eraill.
Oddi ar Wicipedia

Dwi wedi symud hyn o Darogan i Augur. Enw cyffredinol am broffwydoliaeth - heb fod yn grefyddol o reidrwydd - yw darogan, yn hytrach na'r person sy'n daroganu, sef 'daroganwr'. Does dim gair sy'n cyfateb yn union i augur; gair Lladin am offeiriad Rhufeinig. Mae augur yn daroganwr ond felly hefyd oedd Taliesin Ben Beirdd, Nostradamus, Eiseia neu unrhyw un arall sy'n honni medru rhagweld y dyfodol. Anatiomaros 22:01, 28 Tachwedd 2007 (UTC)[ateb]

Dim problem, gweld 'darogan' ar dudalen erthyglau sydd eu hangen wnes i - cyfieithiad y termiadur oedd augur felly dyna beth ysgrifennais i amdano! Mi wnai adael yr erthygl darogan i rhywyn arall felly... Thaf 22:16, 28 Tachwedd 2007 (UTC)[ateb]
Popeth yn iawn. Dwi wedi sgwennu rhyw bwt o eginyn erthygl am rwan, ond gellid sgwennu cyfrolau lawer ar y pwnc! Pan gâf yr amser i greu'r erthygl ar y Canu Darogan efallai wna' i newid rhai o'r dolenni 'darogan' at yr erthygl honno, os yw'n briodol. Anatiomaros 22:26, 28 Tachwedd 2007 (UTC)[ateb]