Sgwrs:Arthur's Pass

Ni chefnogir cynnwys y dudalen mewn ieithoedd eraill.
Oddi ar Wicipedia

Cymreigio'r enw/enw'r erthygl[golygu cod]

Dw i ddim yn meddwl bod eisiau Cymreigio'r enw yma ac hefyd mae gennym ni Fwlch Arthu ym Mryniau Clwyd. Dw i am newid enw'r erthyg i Arthur's Pass a falle ailgyfeirio ato o Bwlch Arthur, Seland Newydd. Hefyd dw i wedi creu tudalen wahanaiethu.--Ben Bore (sgwrs) 09:56, 18 Rhagfyr 2012 (UTC)[ateb]

Bach/Batch[golygu cod]

Dw i wedi hepgor y frawddeg ganlynol gan nad oedd yn glir iawn pam bod cyfeiriad at 'bach' yn y lle cyntaf os mai batch yw'r sillafiad ac yngangiad Saesneg, hefyd falle bod y wybodaeth yn fwy perthnasol i erthygl unigol am y math o adeilad.

Mae 'bach - syllafir fel y gair Saesneg 'batch' yn hytrach na'r un Cymraeg 'bach' - yn fwthyn bach, defnyddir ar gyfer gwyliau dros yr haf.

--Ben Bore (sgwrs) 09:56, 18 Rhagfyr 2012 (UTC)[ateb]