Arthur's Pass
Math | ardal boblog |
---|---|
Enwyd ar ôl | Arthur Dudley Dobson |
Poblogaeth | 48, 50 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Selwyn District |
Gwlad | Seland Newydd |
Arwynebedd | 0.6 km² |
Uwch y môr | 739 metr, 745 metr |
Cyfesurynnau | 42.946°S 171.565°E |
Cod post | 7654 |
Cadwyn fynydd | Southern Alps / Kā Tiritiri o te Moana |
Mae Arthur's Pass, sy'n 920 medr o uchelder, yn croesi Alpau'r De ar Ynys y De, Seland Newydd.
Lleoliad
[golygu | golygu cod]Mae'r Bwlch yn 140 cilomedr o Christchurch a 95 cilomedr o Greymouth ar Ffordd Genedlaethol 73, rhwng dyffrynnoedd Afon Otira i'r gorllewin ac Afon Bealey i'r dwyrain. Enwir y Bwlch ar ôl Syr Arthur Dudley Dobson (1841–1934), a arweiniodd y grŵp cyntaf o bobl Ewropeaidd ar ei draws o ym 1864. Roedd Dobson wedi clywed bod y bwlch wedi cael ei ddefnyddio'n achlysurol gan grwpiau o helwyr o'r arfordir gorllewinol. Credir hefyd bod yr awdur ac archwiliwr Samuel Butler wedi gweld y bwlch ond erioed wedi'i ddefnyddio.
Mae Rheilffordd Seland Newydd y Canoldir yn croesi'r Alpau yma hefyd, trwy dwnnel Otira, 8.5 cilomedr o hyd. Agorwyd y twnnel ym 1923. Ystirir llwybr y trên 'Tranzalpine' o Christchurch i Greymouth fel un o'r rhai mwyaf trawiadol yn y byd. Defnyddir y lein hefyd ar gyfer cludo glo o byllau'r arfordir gorllewinol.
Pentref Arthur's Pass
[golygu | golygu cod]Mae yna hefyd bentref o'r un enw a'r bwlch, sydd â phoblogaeth o 54. Yn ychwanegol, mae gan 59 o bobl batch yn y pentref. Sefydlwyd y pentref, o'r enw 'Bealey Flat Settlement' ar y pryd, ym 1906 ar gyfer gweithwyr ar dwnnel Otira. Caewyd yr ysgol lleol yn 2003.
Parc Cenedlaethol
[golygu | golygu cod]Sefydlwyd Parc Genedlaethol Bwlch Arthur ym 1929, trydydd parc cenedlaethol Seland Newydd.[1][2]
Bywyd gwyllt
[golygu | golygu cod]Gwelir y Kea yn aml iawn yn yr ardal. Yr unig barot alpaidd yn y byd, mae'n hapus i gymryd tameidiau o fwyd oddi wrth twristiaid. Mae ganddo natur chwaraegar, ac yn mwynhau cnoi darnau rwber oddi ar geir. Adar eraill a welir yma yw'r Kiwi, Morepork, Tui, Weka, Kaka ac Aderyn Cloch, ac ymysg adar o dramor, ji-binc, llinos werdd, nico a drudwy. Mae Dryw y Carreg yn gyffredin yn yr ucheldir o gwmpas Bwlch Arthur.
-
Afon Bealey
-
Kea yn cnoi rwber
-
Traphont Otira
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ http://www.nzhistory.net.nz/timeline&new_date=12/3 Article on Arthur's Pass on NZ History website; accessed 1 January 2010
- ↑ Reed, A. W. (2010). Peter Dowling (gol.). Place Names of New Zealand. Rosedale, North Shore: Raupo. t. 31. ISBN 978-0-14-320410-7.
|access-date=
requires|url=
(help)