Sgwrs:Afon Taf (Sir Gaerfyrddin)

Ni chefnogir cynnwys y dudalen mewn ieithoedd eraill.
Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Sgwrs:Afon Tâf)

Onid Afon Tâf yw enw'r afon sy'n llifo trwy Gaerdydd hefyd. Os felly mae eisiau gwahaniaethu rhwng y ddwy.

Rwyf wedi symud hon i "Afon Tâf (Sir Gaerfyrddin)" a galw'r llall yn Afon Tâf (Caerdydd) Rhion 16:55, 11 Mai 2006 (UTC)[ateb]

Diolch Dyfrig 18:16, 12 Mai 2006 (UTC)[ateb]

Sillafiad yr afon(ydd)[golygu cod]

Hyd y gwela i, mae'r sillafiad Tâf jyst yn wall sillafu (er ei fod yn wall cyffredin): mae llafariaid wastad yn hir cyn 'f' (e.e. haf, dof, cof, llif, naf ayyb, a dim to ar y geiriau hynny), felly dim angen to yma chwaith. Os oes unrhywun yn anghytuno, a gân nhw ddweud cyn i fi newid y dudalen? Diolch. Daffy 23:23, 29 Medi 2006 (UTC)[ateb]

Cytuno, a dim cynnig amgen ers 2006 (!) - symudaf yr erthygl --Llygad Ebrill (sgwrs) 15:53, 10 Gorffennaf 2012 (UTC)[ateb]