Sgwrs:¿Por qué no te callas?

Ni chefnogir cynnwys y dudalen mewn ieithoedd eraill.
Oddi ar Wicipedia

Y brenin heb ddangos dicter yn gyhoeddus? Mae'n rhaid i mi anghytuno! (Gyda llaw, dyma erthygl ddiddorol yn te!). Rwan ta, nôl yng nghanol y 60au roedd Chwan Carlos yn cael ei fagu gan Nani a oedd yn ferch i deulu'r Huwsiaid o Sir Fôn; ac yno yr oedd yn bwrw'i wyliau, gyda hi ar aelwyd Gymraeg ym Môn. Gyda llaw, mae'r stori fach hon yn hollol wir. Roedd tad y ferch yn dorrwr mawn ac roedd ganddo faes carafanau a naw o blant os cofiaf yn iawn. Arferai gyfrannu'n helaeth i goffrau cynnar Tafod y Ddraig. Beth bynnag, ar un ymweliad aeth yn dipyn o ffrau rhyngom (ffrau gyhoeddus!) nes y camodd fy mrawd i'r adwy a rhoi'r fath beltan i'r twmffat nes iddo syrthio'n fflat ar ei gefn, a cheuodd ei geg yn reit sydyn. Dwi'n siwr ei fod o'n dal i gofio'r felin wynt a'i fwrodd. Mi drois i'n heddychwr ymhen blynyddoedd. Llywelyn2000 23:24, 15 Ionawr 2009 (UTC)[ateb]

Stori ddiddorol, ond mae manylyn nad wyf yn ei ddeall. Meddyliais i bod "magu" yn golygu "bring up" yn Saesneg, h.y. be a wneir gyda phant, ond dyma roedd Juan Carlos "yn cael ei fagu" yng nghanol y 60au, pan oedd e yn ei 20au hwyr, a phan oedd ei blant ei hun yn cael eu geni. Allet ti egluro o.g.y.dd.? Serch y manylyn hwnnw, mater arall yw dangos dicter yn ei rôl swyddogol brenhinol. Alan 08:23, 16 Ionawr 2009 (UTC)[ateb]
Mi rwyt yn llygad dy le, fel arfer, Alan! Co plentyn sydd gen i (tua 5 oed) felly mi wna i ymchwilio. Efallai y gall rywun o Sir Fôn fy nghyfeirio at y teulu 'Hughes', hefyd. Dyma ddirgelwch gwerth ei ddatrus! Llywelyn2000 01:10, 17 Ionawr 2009 (UTC)[ateb]