Neidio i'r cynnwys

Sgrîn daflunio

Oddi ar Wicipedia
Uwchdaflunydd yn taflunio ar sgrîn sy'n gostwng o'r nenfwd

Cyfarpar sy'n rhoi arwyneb a strwythur i'w gefnogi ar gyfer arddangos delwedd sydd wedi'i thaflunio yw sgrîn daflunio. Gall sgriniau taflunio fod wedi'u gosod yn barhaol, fel mewn sinema; eu paentio ar wal;[1] neu fod yn cludadwy yn sefyll ar dair coes neu'n codi o'r llawr,[2] fel y gwelir mewn ystafell gynadledda neu ofod arddangos arall nad yw'n benodol ar gyfer y pwrpas hwnnw. Math arall o sgrîn cludadwy yw'r sgriniau pwmpiadwy ar gyfer gwylio ffilmiau yn yr awyr agored.[3]

Mae sgriniau fel arfer yn wyn neu'n llwyd er mwyn osgoi amharu ar liw y ddelwedd, a gall yr union liw ddibynnu ar nifer o ffactorau, fel lefel goleuni amgylchynol a chryfder ffynhonnell y ddelwedd. Gellir defnyddio sgriniau fflat neu grwm yn dibynnu ar yr optegau a ddefnyddir i daflunio'r ddelwedd a chywirdeb geometrig y ddelwedd. Sgriniau fflat sydd fwyaf cyffredin o'r ddau. Gall sgriniau gael eu dylunio i'w defnyddio o'r blaen neu o'r tu ôl, a'r mwyaf cyffredin yw systemau sy'n taflunio o'r blaen, sydd â'r taflunydd wedi'i leoli yr un ochr â'r gynulleidfa.

Mae gwahanol farchnadoedd i'w cael ar gyfer sgriniau sydd wedi'u gwneud i'w defnyddio gyda thaflunwyr digidol, taflunwyr ffilm, uwchdaflunwyr a thaflunwyr sleidiau, er mai'r un syniad sy'n sylfaen iddynt i gyd. Mae sgrinio tafluniad o'r blaen yn gweithio trwy adlewyrchu'r goleuni sy'n cael ei daflunio arnynt, tra bod sgriniau taflunio o'r cefn yn trawsyrru'r goleuni trwyddynt.

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. "Paent acrylig a ddefnyddir i droi wal yn sgrîn ffilm". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2007-02-24. Cyrchwyd 2019-02-17.
  2. ProjectorScreen.com Canllaw prynu taflunydd
  3. Gwybodaeth am sgriniau awyr agored symudadwy