Sglefrfyrddio
Enghraifft o'r canlynol | math o chwaraeon, cludiant un-person, cludiant amgen, cangen economaidd |
---|---|
Math | chwaraeon byrddau, chwaraeon olympaidd, roller sport |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Mae sglefrfyrddio yn gamp sy'n cynnwys reidio a pherfformio triciau gyda sglefrfwrdd (a elwir hefyd yn 'fwrdd sgrialu'). Mae sglefrfyrddio'n weithgaredd hamdden poblogaidd ymhlith pobl ifanc.[angen ffynhonnell] Dechreuodd sglefrfyrddio yn yr Unol Daleithiau. Mae pobl yn sglefrfyrddio mewn parciau sglefrio fel arfer.
Mae sglefrfyrddio yn un o gampau Gemau Olympaidd yr Haf, a hynny ers gemau 2020 yn Tokyo, Japan.[1]
Sky Brown oedd y sglefrfyrddiwr proffesiynol ieuengaf yn y byd pan gystadlodd yng Ngemau Olympaidd yr Haf 2020, lle enillodd medal efydd.[2][3]
Sglefrfyrddio a Chymru
[golygu | golygu cod]Yn 2024 cymeradwyodd Cyd-bwyllgor Addysg Cymru Sglefyrddio fel pwnc dilys fel rhan o arholiad TGAU i ddisgyblion Cymru. Bydd yn weithredol erbyn 2026 fel rhan o gwrs arholiad Chwaraeon yn dilyn ymgyrch gan sgefrfyrddiwr ifanc o'r enw Osian. Mae'n un o 13 camp arall, fel seiclo, sydd wedi eu derbyn yn rhan o'r arholiad Chwaraeon.[4]
Mae gan Gymru Gorff Llywodraethu Cenedlaethol ar gyfer Sglefrfyrddio, sef Sglef Cymru.[5]
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- Skateboarding Wales tudalen Facebook Sglef
- The Best of Welsh Skateboarding blog a fideos am sglefyrddio yng Nghymru
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-08-12. Cyrchwyd 2024-08-07.
- ↑ "Tokyo 2020: Skateboarder Sky Brown set to become youngest British summer Olympian of all time". BBC Sport (yn Saesneg). Cyrchwyd 1 Gorffennaf 2021.
- ↑ "Tokyo Olympics: 13-year-old Sky Brown wins Olympic skateboarding bronze". BBC (yn Saesneg). 4 Awst 2021. Cyrchwyd 4 Awst 2021.
- ↑ "Skateboarding GCSE: Wales approves the sport for school". BBC. 12Ebrill 2024.
- ↑ "Sglef Cymru". skateboardwalescymru ar Instagram. Cyrchwyd 19 Awst 2024.