Sgandal cig ceffyl 2013

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search

Cychwynodd sgandal cig ceffyl 2013 ar 15 Chwefror 2013, pan sylweddolwyd (drwy ddadansoddi DNA bwyd mewn siopau yn Ewrop) fod llawer o fwydydd wedi'u cam-labelu. Roedd y cynnwys yn wahanol i'r label, gan ei fod yn cynnwys 60–100%[1] o gig ceffyl yn ogystal â chig eidion. Olrheiniwyd y nwyddau hyn i'r ffatri pecynnu, y ffatri prosesu cig ac oddi yno i'r lladd-dai. Gwnaed hyn, mae'n debyg oherwydd fod cig ceffyl yn llawer rhatach na buwch, ac felly roedd y cwmniau a oedd yn llwyddo i dwyllo'r cwsmer yn y modd hwn yn gwneud mwy o elw; ar adegau defnyddiwyd porc gan ei fod hefyd yn rhatach na chig eidion.[2]

Roedd dwy elfen i'r sgandal: yn gyntaf yr elfen o dwyllo'r cwsmer, gan fod y label yn wahanol i'r cynnwys. Roedd yr ail elfen yn ymwneud â'r perygl nad oedd y cig yn iach, oherwydd ei fod yn cynnwys cemegolion y ffariar neu afiechydon megis equine infectious anaemia (EIA).

Croesdorriad o'r retrofirws equine infectious anaemia (EIA)

Ymhlith y cwmnïau cyntaf i gydnabod eu heuogrwydd yr oedd Tesco, Asda, Dunnes Stores, Lidl, Aldi ac Iceland. Ychydig wedyn cyhoeddodd Burger King, sydd â dros 500 allfa bwyd parod yn Iwerddon a gwledydd Prydain, eu bônt yn peidio defnyddio un o'u prif gyflenwyr sef Silvercrest.[3]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]