Sex and the City (ffilm)

Oddi ar Wicipedia
{{{enw}}}

Poster y Ffilm
Cyfarwyddwr Michael Patrick King
Cynhyrchydd Michael Patrick King
Sarah Jessica Parker
Darren Star
Ysgrifennwr Michael Patrick King
Serennu Sarah Jessica Parker
Kim Cattrall
Kristin Davis
Cynthia Nixon
Chris Noth
Candice Bergen
Jennifer Hudson
Cerddoriaeth Aaron Zigman
Sinematograffeg John Thomas
Golygydd Michael Berenbaum
Dylunio
Dosbarthydd New Line Cinema
Warner Bros.
HBO Films
Dyddiad rhyddhau 30 Mai 2008, UDA
Amser rhedeg 145 munud
Gwlad UDA
Iaith Saesneg
Cyllideb $65 miliwn
Refeniw gros $413.4 miliwn
(Saesneg) Proffil IMDb

Mae Sex and the City ("Rhyw a'r Ddinas") (2008) yn ffilm gomedi rhamantaidd sy'n addasiad o gyfres HBO o'r un enw. Seiliwyd y gyfres deledu ar nofel o'r un enw gan Candace Bushnell. Dilyna'r ffilm fywydau pedair ffrind: Carrie Bradshaw (Sarah Jessica Parker), Samantha Jones (Kim Cattrall), Charlotte York Goldenblatt (Kristin Davis), a Miranda Hobbes (Cynthia Nixon), wrth iddynt fyw eu bywydau fel gwragedd yn eu 40au yn Ninas Efrog Newydd. Arferai'r gyfres deledu ddarlunio trafodaethau diflewyn ar dafod am ramant a rhywioldeb.

Cafwyd premiere byd-eang y ffilm yn Sgwâr Leicester, Llundain ar y 12fed o Fai, 2008 a rhyddhawyd y ffilm i'r cyhoedd ar y 28ain o Fai, 2008 yn y DU ac ar y 30ain o Fai, 2008 yn yr Unol Daleithiau.

Cast[golygu | golygu cod]

Cynigiwyd rôl cameo i Victoria Beckham ond bu'n rhaid iddi wrthod am ei fod yn gwrthdaro gydag ymarferion taith y Spice Girls.

Eginyn erthygl sydd uchod am ffilm. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.