Seren Barnard
Jump to navigation
Jump to search
Seren tua chwe blwyddyn golau o'r Haul yw Seren Barnard. Cafodd ei darganfod gan y seryddwr E. E. Barnard yn 1916. Ar ôl y system Alpha Centauri, Seren Barnard yw'r seren agosaf i'r Haul. Mae'n gorwedd yng nghytser Ophiuchus.
Mae taith i ymweld â ser y tu allan i Gysawd yr Haul yn amhosibl gyda thechnoleg cyfoes; serch hynny, cydnabyddir Seren Barnard fel targed posibl ar gyfer archwilio sêr ger yr Haul.