Semtecs
| Enghraifft o: | gwaith ysgrifenedig |
|---|---|
| Awdur | Geraint V. Jones |
| Cyhoeddwr | Gwasg Carreg Gwalch |
| Gwlad | Cymru |
| Iaith | Cymraeg |
| Dyddiad cyhoeddi | Awst 1998 |
| Pwnc | Nofelau Cymraeg |
| Argaeledd | mewn print |
| ISBN | 9780863815287 |
| Tudalennau | 374 |
| Dynodwyr | |
Nofel yn Gymraeg gan Geraint V. Jones yw Semtecs. Gwasg Carreg Gwalch a gyhoeddodd y gyfrol a hynny yn 1998. Yn 2013 roedd y gyfrol mewn print.[1]. Dyma oedd y nofel fuddugol ar gyfer Gwobr Goffa Daniel Owen yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Bro Ogwr 1998.
Disgrifiad
[golygu | golygu cod]Nofel dditectif, gyda chyn-aelod o'r S.A.S. yn arwr iddi.
Mae hi'n gyntaf o dair nofel yn dilyn anturiaethau "Semtecs" - sef Samuel Tecwyn Turner - ditectif yr heddlu yn Nhrecymer, pentref dychmygol yng ngogledd Cymru. Teitl yr ail nofel yw Asasin, a'r drydedd yw Omega.
Roedd Semtecs yn yr SAS cyn dod i Drecymer i weithio i'r heddlu ac i osgoi hunllefau ei waith blaenorol. Mae'r nofel yn thriller sydd yn dilyn digwyddiadau anghredadwy yn Nhrecymer yn ogystal â gwaith blaenorol Semtecs a'r problemau gafodd ef yno. Mae'r nofel yn dechrau gyda byrgleriaeth mewn bwyty, mae mwy o droseddau yn dilyn cyn hir ac mae Semtecs yn graddol ddargonfod bod sawl trywydd sydd angen eu dilyn i gael y gwir.
Mae Semtecs yn frodor eithaf cyffredin yn y pentref. Mae e'n byw mewn hen sgubor wedi ei hadnewyddu ac mae'n mwynhau teithio ar ei feic modur. Mae ffrindiau Semtecs a bywyd yn y pentref bychan yng ngogledd Cymru yn cael eu cyflwyno yn ddigon manwl yn y llyfr hwn. Delir â sawl is-bwnc llosg drwy gydol nofel; gan gynnwys mewnfudo i Gymru wledig, newid cefn gwlad a'r berthynas rhwng Saeson a Chymry.
Prif Gymeriadau
[golygu | golygu cod]Semtecs- sef Samuel Tecwyn Turner. Yn 30 mlwydd oed ar adeg y nofel ac yn dditectif-gwnstabl gyda Heddlu Trecymer yng ngogledd Cymru. Cyn-filwr gyda'r SAS ac ieithydd dawnus. Mae'n byw yn Rhiwogof, pentref bychan ar gyrion Trecymer (prif dref y nofel).
Ifor ap Llywelyn- 'Twysog' neu 'Ap' i'w ffrindiau gan iddo honni ei fod e'n ddisgynnydd tywosogion Gwynedd. Saer sy'n byw yn Nhrecymer. Ffrind agos i Semtecs. Un sy'n hoffi ei gwrw a thynnu coes ond sy'n celu ochr ddeallus a sensitif.
Bill Meredith- Ditectif Sarjant gyda Heddlu Trecymer.
John Rogers- Ditectif Inspector gyda Heddlu Trecymer. Yn dueddol o newid rhwng Cymraeg a Saesneg wrth siarad.
Elis Puw- ffermwr tlawd Cae'r Gorlan ar gyrion Trecymer.
Berwyn a Lis Davies- ffrindiau Semtecs, ac yn aelodau o gôr y dref.
Pat Lessing- merch yn ei deugeiniau sy'n aelod o gôr y dref. Mae hi'n byw yn Llwyncelyn, tŷ mawr ar gyrion Trecymer.
Rhian Gwilym- cyfeilyddes newydd y côr sy'n datblygu perthynas agos gyda Semtecs.
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Gwefan Gwales; Archifwyd 2016-03-04 yn y Peiriant Wayback adalwyd 16 Hydref 2013