Seico-ddaearyddiaeth

Oddi ar Wicipedia
Seico-ddaearyddiaeth
Enghraifft o'r canlynolsymudiad celf Edit this on Wikidata

Mae Seico-ddaearyddiaeth neu Seicgeograffeg (Saesneg: Psychogeography, Ffrangeg: Psychogéographie) yn disgrifio effaith lleoliad daearyddol, yn arbennig dinasoedd, ar emosiynau ac ymddygiad unigolion.

Fe’i datblygwyd yn bennaf yn Ffrainc gan feddylwyr radicalaidd fel ffordd o edrych ar y byd o amgylch mewn ffordd wahanol. Eu gobeithio oedd i bobol herio syniadau confensiynol a dechrau meddwl yn wahanol am reolaeth gymdeithas a'r cyfyngiadau o fyw mewn dinas. [1]

Mae syniadau seico-ddaearyddiaeth bellach wedi'u datblygu yn y 21ain ganrif gan awduron fel Iain Sinclair a Will Self, a hefyd gwneuthurwyr mapiau. [2][3]

Sylfaenwyr[golygu | golygu cod]

Fe’i datblygwyd yn bennaf yn Ffrainc gan aelodau mudiadau Letterist yn y 1950au a’r Situationist International yn y 1960, sef grwpiau o feddylwyr radicalaidd a Marcsaidd ac anarchaidd oedd wedi’u dylanwadu gan syniadau’r mudiadau celfyddydol Dada a Swrealaeth.

Ym 1955, diffiniodd Guy Debord seico-ddaearyddiaeth fel "astudiaeth o union gyfreithiau ac effeithiau penodol yr amgylchedd daearyddol, wedi'i drefnu'n ymwybodol ai peidio, ar emosiynau ac ymddygiad unigolion." Un o'r tactegau allweddol ar gyfer seico-ddaearyddiaeth yw'r dérive . [4]

Dérive[golygu | golygu cod]

Mae dérive yn fath o grwydro trwy amgylchedd trefol. Heb fwriadau mynd o bwynt A i bwynt B, ond yn hytrach i edrych ac ystyried y ddinas mewn ffordd sy’n agored i siawns a serendipidi.

Nid yw seico-ddaearyddiaeth yn chwilio am golygfeydd neu i fod yn fath o dwristiaeth. Mae'n ymwneud â phrofi'r ddinas mewn ffordd gorfforol a seicolegol. Mae'n siawns i weld corneli bach a llefydd wedi sydd wedi anghofio a darganfod cyfrinachau'r ddinas a'i hanes cudd.

Mae seico-ddaearyddiaeth yn gallu bod yn ffordd hwyliog i grwydro dinas. I helpu gweld y ddinas mewn ffordd newydd ac i gysylltu â hi ar lefel ddyfnach. Ond bwriad y Letterist a’r Situationist International oedd bod yn arf pwerus ar gyfer newid cymdeithasol a gwleidyddol. Trwy edrych ar y ddinas mewn ffordd feirniadol a chreadigol, mae seico-ddaearyddwyr yn gobeithio herio’r status quo ac efallai creu posibiliadau newydd ar gyfer y dyfodol. [5]

Yn y 21ain ganrif[golygu | golygu cod]

Iain Sinclair, 2013

Mae syniadau seico-geograffeg wedi datblygu ers y 1960au gydag ysgrifenwyr fel Iain Sinclair, Will Self, Stewart Home a Rhys Mwyn yn defnyddio’r techneg yn y 21ain ganrif.

Mae teithiau cerdded wedi tywys sy'n dangos llefydd cudd neu gyfleu hanes neu eglurhad sy’n wahanol i fersiwn swyddogol neu ddiwydiant twristaidd yn gallu cael eu cyfrif fel math o seico-ddaearyddiaeth.

Mae techneg y Situationist o dorri map yn ddarnau a gludo nhw gyda’i gilydd mewn trefn wahanol i greu map newydd wedi dylanwadu ar sut mae rhai cartograffwyr yn cyfleu gwybodaeth. Er enghraifft mae map yn dangos y blaned gyda gwledydd cyfoethog Ewrop ac America yn y gwaelod a gwledydd tlotach y De Amercia, Asia ac Affrica ar y pen yn fath o Seico-ddaearyddiaeth. [6]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Leaving the 20th Century: Incomplete Work of the Situationist International 1974/1998, Golygydd: Christopher Grey. ISBN-13 ‏ : ‎ 978-0946061150
  2. https://www.iainsinclair.org.uk/category/psychogeography-2/
  3. https://will-self.com/category/books/psychogeography/
  4. Arts and Politics of the Situationist International 1957–1972. Awdur: Edward John Matthews, 2021. ISBN-13 ‏ : ‎ 978-1793647085
  5. Debord, Guy (Tachwedd 1956). Cyfieithiad Ken Knabb. "Theory of the Dérive". Les Lèvres Nues (9).
  6. https://libguides.lib.msu.edu/psychogeography