Scooby-Doo

Oddi ar Wicipedia

Cyfres o gartŵnau Americanaidd gan Hanna-Barbera yw Scooby-Doo. Mae'r gyfres yn seiliedig ar anturiaethau'r ci rhyfeddol Scooby-Doo a'i griw o ffrindiau, Fred, Shaggy, Daphne a Velma. Mae Scooby a'i griw yn teithio o le i le yn eu Mystery Machine, gan ddod ar draws ysbrydion, angenfilod neu greaduriaid uwchnaturiol eraill sy'n codi braw ar y boblogaeth leol. Maen nhw'n dargarfod beth sydd tu ôl i'r ysbrydion, gan ddadrithio dihryn sy'n ceisio celu rhyw drosedd neu gynllwyn. Yn y pendraw, mae'r dihiryn yn cael ei arestio, fel arfer yn melltithio ymyrraeth y criw fel mae'n mynd. Ymddangosodd y gyfres yn gyntaf ar rwydwaith CBS yn 1969. Ers hynny, mae 11 o gyfresi wedi cael eu cynhyrchu. Ychwangwyd nai bach Scooby, Scrappy-Doo at restr y cymeriadau yn 1979, ac o 1980 ymlaen symudodd ffocws y gyfres i ganolbwyntio ar anturiaethau y ddau hynny. Yn ogystal â rhaglenni teledu, cafodd dau ffilm eu rhyddhau yn 2002 a 2004, gydag actorion yn y prif rannau (ac eithrio Scooby ei hun, sy'n animeiddiedig).

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]