Sbectol haul
Gwisgir sbectol haul i helpu cadw'r haul rhag brifo eich llygaid. Mae sbectol haul yn amddiffyn 97% o'r llygaid. Mae polareiddio yn fath o sbectol haul sy'n amddiffyn y llygaid rhag adlewyrchiad o ddwr ac eira. Gellir defnyddio sbectol haul gydag ychydig o liw arnynt ar gyfer chwaraeon. Weithiau defnyddir sbectol haul i stopio tywod a mwd rhag mynd i mewn i'r llygaid. Gellir eu prynu o'r optegydd ar gyfer pobol sy'n gwisgo sbectol cyffredin felly does dim angen dau bar o sbectol. Mae pelydrau'r haul yn fwyaf peryglus rhwng 10y.b. a 2y.h. hyd yn oed os mae'n gymylog.
Mae pobol wedi bod yn ceisio i amddiffyn eu llygaid am 2000 o flynyddoedd. Arferai pobl Tsieina wisgo sbectol haul mewn achosion llys. Cafodd camerau poloraid a'r spectol haul eu creu gan yr un dyfeiswr. Mae Ray-Ban yn un o'r mathau mwyaf poblogaidd o sbectol haul. Daeth sbectol haul yn fwy poblogaidd yn y 1930au a bellach ceir llawer o fathau gwahanol osbectol haul.