Saws barbiciw
Gwedd
Saws a marinâd yw saws barbiciw a gaiff ei arlwyo â bwydydd barbiciw. Gan amlaf caiff ei roi ar gig, yn enwedig porc, asennau eidion, a chyw iâr, wrth iddo gael ei farbiciwio, gridyllu, neu bobi, neu wedi iddo gael ei goginio. Mae ryseitiau saws barbiciw yn amrywio'n eang. Mae'r cynhwysion yn aml yn cynnwys past tomato, finegr, mwg hylifol, sbeisiau, a melysyddion.